Print

Print


Mae'r Termiadur a GyA yn rhoi "tirwedd wrthdro" am "inverted relief" - h.y. ystyr ddaearyddol, ond yr hyn sydd gen i ydi gwaith cerflunio.
 
Dwi ddim yn hoffi "cerfwedd wrthdro" gan ei fod yn awgrymu bod rhywbeth wedi'i wrthdroi.
 
Gan fod "inverted relief" yr un peth a "counter-relief" (dwi'n meddwl), a fyddai "gwrth-gerfwedd" yn dderbyniol tybed?