I mi gair am pasture neu grazing ydy porfa nid y cnwd ei hun. Mae'n dibynnu at ba gynulleidfa y mae'r darn wedi ei anelu ati hefyd mae'n siwr. Beryl -----Neges Wreiddiol/Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Linda Griffiths Sent: 01 July 2013 12:30 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: grass Glaswellt faswn i'n ddeud yn naturiol hefyd ond dwi'n credu mai 'porfa' sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol yn y byd amaethyddol - ar bapur beth bynnag - hy. tir mae'r anifeiliaid yn ei bori. Mae 'na laswellt yn tyfu yn y cloddiau ac yn yr ardd ond mae'r glaswellt sy'n cael ei bori'n 'borfa' er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n gymhleth - gwair maen nhw'n ddeud yng Ngheredigion am laswellt - glaswellt sydd wedi'i sychu a'i belio ydy hwnnw i bobl Maldwyn. Maen nhw hefyd yn 'lladd gwair' yng Ngheredigion ond yn 'torri gwair' yn Sir Drefaldwyn! Linda -----Original Message----- From: Mary Jones Sent: Monday, July 01, 2013 12:12 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: grass Onid 'tir porfa' sy'n cael ei ddefnyddio ym mhob ardal? Mary -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Beryl H Griffiths Sent: 01 July 2013 12:01 To: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: grass Dwi'n ofni na fyddwn yn cytuno Linda, yn sicr fyddwn i fyth yn deud 'porfa' yn Llanuwchllyn 'ma! Glaswellt fydde fo yma. Rhaid cofio hefyd y gallai glaswellt yn y cyd-destun yma gael ei bori neu ei ddefnyddio i wneud silwair/gwair. Beryl -----Neges Wreiddiol/Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Linda Griffiths Sent: 01 July 2013 11:25 To: [log in to unmask] Subject: Re: grass Porfa yn y cyd-destun yma dwi'n credu Sian. Linda -----Original Message----- From: Sian Roberts Sent: Monday, July 01, 2013 11:06 AM To: [log in to unmask] Subject: grass Un i'r bobl amaethyddol! Sôn am fferm yng Ngwynedd: Type of crops grown: Grass Beth yw "grass" yn y cyd-destun yma? Glaswellt? Gwair? Porfa? Maen nhw'n cadw gwartheg a defaid. Diolch Siân=