Ond Cemaes ydy'r sillafiad cywir yn de, gyda'r acen ar y sillaf gyntaf. Gw. GyrA a Rhestr o Enwau Lleoedd.
 
Gwenda


2013/7/1 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
Beth am Cefn + Maes = Cemmaes ?
 
Eurwyn.


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dylan Foster Evans
Sent: 01 July 2013 17:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Llammarch

O siarad â rhywun o'r ardal, rwy'n deall mai ar y 'llam' y mae'r acen. Mae 'Llam-march' yn awgrymu acen bwys ar y sillaf olaf. Ond byddai dwy 'm' nesaf at ei gilydd mewn ffurf fel 'Llammarch' yn groes i arfer y Gymraeg o ddyblu 'n' ac 'r' yn unig.

Felly 'Llamarch' (i ryw raddau fel 'pumlwydd [oed]'), mae'n debyg.

Un lletchwith!

Dylan




From:        Dewi Williams <[log in to unmask]>
To:        [log in to unmask],
Date:        28/06/2013 17:41
Subject:        Re: Llammarch
Sent by:        Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>





Helo Dafydd,
A ydy hwn o ddefnydd?

Yn y  Guide to Welsh origins of place names in Britain  gan yr Ordnance Survey o dan y gair "llam" mae gan yr enw gysylltnod.


llam
nm    leap      Llam Carw SH4593       Llam-march SO2111


Cewch lawrlwytho y ddogfen PDF yma

http://www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/docs/ebooks/guide-to-welsh-origins-of-place-names.pdf

 
Dewi


> Date: Fri, 28 Jun 2013 15:30:12 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Llammarch
> To: [log in to unmask]
>
> Llammarch ger Blaenafon, Mynwy ...
> A oes Cymraeg cyfatebol? Wedi edrych yn Dict. of Place-names, Hywel
> Wyn Owen.




--
Gwenda Lloyd Wallace

Cyfieithydd/Translator
Darllenydd Proflenni/Proofreader
Ymchwilydd Ffynonellau/Source Researcher
01970 880817
07980 350949