Rwy'n meddwl y byddwn i'n ei chadw'n syml - "gwallt anodd ei liwio" - mae'n hollol ddealladwy - a dim ond chwe syllaf - sef un sillaf yn llai na 'colouring resistant hair"! Dyw i ddim yn siŵr a ydy 'gwrthiannol' yn cael ei ddefnyddio'n eang y tu hwnt i ym maes ffiseg? -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy Sent: 19 Gorffennaf 2013 10:28 To: [log in to unmask] Subject: resistant hair Bore da, chwychwi sy â gwallt ac yn arfer y fraint o'i liwio! 'colouring resistant hair' ydi'r cymal, yn ymwneud â Safonau Trin Gwallt a Gwaith Barbwr. Dwi isio osgoi dweud rhywbeth hir-wyntog megis 'gwallt sy'n anodd ei drin' ayyb... Mi rydw i wedi defnyddio 'gwrthiannol' hyd yn hyn ond tybed a fyddai bathu term fel 'gwrthodol' yn bosib? Dwi am ei gadw'n gryno, gan fod y rhain yn restrau cryno. Diolch, Dafydd