Bosib iawn.  Y drwg ydi fod mountain upland a hills yn cael eu cymysgu ac mae'n anodd dweud.  Mi fyddwn i'n tueddu i ddweud 'defaid yr ucheldir' am 'upland ewes' a rhywbeth fel 'defaid fel defaid mynydd' am 'hill (type) ewes'.  Oni bai fod y testun yn un technegol iawn, dw i'n meddwl bod 'defaid' yn iawn, mae mamogiaid yn eithrio wyn, hesbinod, llydnod a myheryn.

Wil
Lofnod Inc 3
Inc Cyfieithu Translations
www.english-welsh.com
www.cymraeg-saesneg.com
[log in to unmask]
01758 614977
07747 692 459
On 31/07/2013 13:15, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">O diar!

Felly ydi "upland ewes" a "hill (type) ewes" yr un math o beth?

Diolch

Siân

On 2013 Gorff 31, at 12:35 PM, Inc Cyfieithu Translations wrote:

Ydi a nac ydi.  Mae mountains, hills ac uplands yn gallu golygu'r un peth neu wahanol bethau i wahanol bobl.  Dim ond bridiau o ddefaid caled iawn, fel defaid mynydd Cymreig a'r Scottish Blackface, sy'n gallu ffynnu ar borfa fynydd, mae bridiau llai caled, fel y Cheviots a defaid Llanwennog, yn ddigon hapus ar y bryniau a bridiau o ddefaid llawr gwlad, fel y Leicester, yn gorfod cael porfa frasach. Byddai defnyddio defaid mynydd, defaid yr ucheldir a defaid llawr gwlad yn ddigon eglur, dybiwn i.

Wil
Lofnod Inc 3
Inc Cyfieithu Translations
www.english-welsh.com
www.cymraeg-saesneg.com
[log in to unmask]
01758 614977
07747 692 459
On 31/07/2013 11:46, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">Diolch - Ydi "hill sheep" yr un peth â "mountain sheep" felly?

Cofion

Siân


On 2013 Gorff 30, at 1:50 PM, Gareth Evans Jones wrote:

Mamogiaid o fridiau mynydd

From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 30 July 2013, 13:20
Subject: hll type ewe

Helo

Diolch i bawb am eu help gyda'r defaid:

Beth yw "hill type ewe" plis?

Diolch eto

Siân