Print

Print


Bosib iawn.  Y drwg ydi fod mountain upland a hills yn cael eu cymysgu 
ac mae'n anodd dweud.  Mi fyddwn i'n tueddu i ddweud 'defaid yr 
ucheldir' am 'upland ewes' a rhywbeth fel 'defaid fel defaid mynydd' am 
'hill (type) ewes'. Oni bai fod y testun yn un technegol iawn, dw i'n 
meddwl bod 'defaid' yn iawn, mae mamogiaid yn eithrio wyn, hesbinod, 
llydnod a myheryn.

Wil
Lofnod Inc 3
Inc Cyfieithu Translations
www.english-welsh.com <http://english-welsh.com/>
www.cymraeg-saesneg.com <http://cymraeg-saesneg.com/>
✉ [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
☎ 01758 614977
✆ 07747 692 459
On 31/07/2013 13:15, Sian Roberts wrote:
> O diar!
>
> Felly ydi "upland ewes" a "hill (type) ewes" yr un math o beth?
>
> Diolch
>
> Siân
>
> On 2013 Gorff 31, at 12:35 PM, Inc Cyfieithu Translations wrote:
>
>> Ydi a nac ydi.  Mae mountains, hills ac uplands yn gallu golygu'r un 
>> peth neu wahanol bethau i wahanol bobl.  Dim ond bridiau o ddefaid 
>> caled iawn, fel defaid mynydd Cymreig a'r Scottish Blackface, sy'n 
>> gallu ffynnu ar borfa fynydd, mae bridiau llai caled, fel y Cheviots 
>> a defaid Llanwennog, yn ddigon hapus ar y bryniau a bridiau o ddefaid 
>> llawr gwlad, fel y Leicester, yn gorfod cael porfa frasach. Byddai 
>> defnyddio defaid mynydd, defaid yr ucheldir a defaid llawr gwlad yn 
>> ddigon eglur, dybiwn i.
>>
>> Wil
>> Lofnod Inc 3
>> Inc Cyfieithu Translations
>> www.english-welsh.com <http://english-welsh.com/>
>> www.cymraeg-saesneg.com <http://cymraeg-saesneg.com/>
>> ✉ [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
>> ☎ 01758 614977
>> ✆ 07747 692 459
>> On 31/07/2013 11:46, Sian Roberts wrote:
>>> Diolch - Ydi "hill sheep" yr un peth â "mountain sheep" felly?
>>>
>>> Cofion
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>> On 2013 Gorff 30, at 1:50 PM, Gareth Evans Jones wrote:
>>>
>>>> Mamogiaid o fridiau mynydd
>>>>
>>>> *From:* Sian Roberts <[log in to unmask] 
>>>> <mailto:[log in to unmask]>>
>>>> *To:* [log in to unmask] 
>>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>>> *Sent:* Tuesday, 30 July 2013, 13:20
>>>> *Subject:* hll type ewe
>>>>
>>>> Helo
>>>>
>>>> Diolch i bawb am eu help gyda'r defaid:
>>>>
>>>> Beth yw "hill type ewe" plis?
>>>>
>>>> Diolch eto
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>>
>>>
>>
>