Ydi a nac ydi. Mae mountains, hills ac
uplands yn gallu golygu'r un peth neu wahanol bethau i wahanol
bobl. Dim ond bridiau o ddefaid caled iawn, fel defaid mynydd
Cymreig a'r Scottish Blackface, sy'n gallu ffynnu ar borfa fynydd,
mae bridiau llai caled, fel y Cheviots a defaid Llanwennog, yn
ddigon hapus ar y bryniau a bridiau o ddefaid llawr gwlad, fel y
Leicester, yn gorfod cael porfa frasach. Byddai defnyddio defaid
mynydd, defaid yr ucheldir a defaid llawr gwlad yn ddigon eglur,
dybiwn i.
Wil
On 31/07/2013 11:46, Sian Roberts wrote: