Print

Print


Swnio'n dda, Gwenda; byddwn i'n meddwl bod angen gair byr, syml, ar gyfer y gair MAWR cyntaf, fel yn y gwreiddiol - ond sut mae cloi na lock neb allan o feic, wn i ddim.

Ann
On 03/07/2013 21:47, Gwenda Wallace wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Beth am CLOI/CADW/CAU lladron allan?
 
Mae Penrhyn Lockout (streic y chwarelwyr 1900-03) yn cael ei gyfieithu fel Argyfwng Cau Allan y Penrhyn (y Termiadur).
 
 


2013/7/3 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
Deunyddiau hyrwyddo yn ymwneud â diogelwch beiciau ydy'r cyd-destun. Mae'r ymgyrch yn annog beicwyr i ddefnyddio dau glo i ddiogelu beics, fel bydd hi'n anoddach i ladron eu dwyn.
 
Mae'r logo yn edrych fel hyn:
 
 
 
LOCK
thieves out
 
Does dim rhaid iddo fod yn gyfieithiad uniongyrchol - mi fuasai rhywbeth sy'n cyfleu neges debyg yn dderbyniol dros ben - ond fe ddylai'r fersiwn Gymraeg fod yn weddol debyg o ran nifer y llythrennau/geiriau.
 
Dwi wedi meddwl am 'Llesteiriwch y Lladron' fel man cychwyn, ond mi fuasai angen rhagor o le i 'llesteiriwch'. 
 
Tybed a oes gan unrhyw un gynnig ychydig yn fwy cryno?
 
Diolch!
 



--
Gwenda Lloyd Wallace

Cyfieithydd/Translator
Darllenydd Proflenni/Proofreader
Ymchwilydd Ffynonellau/Source Researcher
01970 880817
07980 350949