Print

Print


Rhaglen o dair drama ...?


On 23/07/2013 14:43, anna gruffydd wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Cytuno, ond erioed wedi llwyddo i ddod o hyd i ateb boddhaol- heblaw aralleirio - tair dram sydd yn y rhaglen, er enghraifft. O ran yr enghraifft dan sylw - unrhyw beth sy'n waith cerddorol?

Anna


2013/7/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Mae'r Termiadur a GyA yn rhoi "cynnwys" am "consist", gyda'r enghraifft ganlynol yn y Geiriadur -
 
"The programme consists of three plays" - "Mae'r rhaglen yn cynnwys tair drama"
 
Ond dydi'r ddau osodiad ddim yr un peth - Tair drama *ydi'r* rhaglen. Gallai'r cyfeiriad Cymraeg uchod gyfeirio at raglen o ddigwyddiadau amrywiol, a thair drama yn eu plith.
 
Felly sut mae deud "Any work consisting of music"? Diffiniad ydio o'r term "gwaith cerddorol". Mae llawer o fathau eraill o weithiau'n cynnwys cerddoriaeth wrth reswm (dramâu ac ati)