Print

Print


"'Dw i ddim yn siwr y byddai "gadael" yn gwneud y tro ar gyfer "opt out", gan na fydd y gweithiwyr yn aelodau'r cynllun o gwbl."

Ie - pwynt da, Ann. 

"Ymaelodi" - rhaid i mi gofio hynna at y tro nesa!

Sioned


On 3 Jul 2013, at 11:05, Ann Corket wrote:

Doeddwn i ddim yn deall digon am y mater ar y cychwyn, na sylweddoli bod "contract out" ac "opt out" yn bethau hollol wahanol *yn y cyd-destun*.  Yn y diwedd, dilynais awgrym Sioned i ryw raddau ar gyfer "opt out".  Dyma'r e-bost a anfonais at y clerc, ac mi dderbyniodd f'awgrym:

"'Rwyf wedi bod yn ymchwilio "contract out" ac "opt out", ac er imi
apelio am gymorth, heb gael dim hyd yn hyn. O ddarllen yn ehangach,
gwelaf imi ddrysu oherwydd bod y cofnod ar Opting Out yn dod yn syth o
flaen yr un ar Automatic Enrolment. 'Rwy'n meddwl fy mod i'n iawn wrth
ddweud : [the Organisation's] Scheme is a *contracted out* scheme, but
employees can *opt out* of being enrolled in that scheme.

"Mae "eithrio" yn gwneud llawer mwy o synnwyr imi ar ol imi ddeall ei fod
yn cyfeirio at y Cynllun, yn hytrach nag at y gweithiwr (ac "eithrio" sydd
yn y mwyafrif o gynigion TermCymru). Yn anffodus, mae "eithrio" yn derm
posibl ar gyfer "opt out" hefyd. I wahaniaethu, er ei bod hi braidd yn
hirwyntog, 'rwyf wedi defnyddio "dewis peidio ag ymaelodi a^'r Cynllun"
ar gyfer "opt out". Byddai'n bosibl hepgor y "dewis", ond mae'n debyg ei
bod hi'n gywirach ei arfer. Byddai "ymuno" yn gwneud y tro, yn lle
"ymaelodi", ond gan y daw pobl yn aelodau o'r Cynllun, dyna'r gair a
ddewisais. "

'Dw i ddim yn siwr y byddai "gadael" yn gwneud y tro ar gyfer "opt out", gan na fydd y gweithiwyr yn aelodau'r cynllun o gwbl.  Ar gyfer "opting in or out" dewisais " dewis ymaelodi neu beidio ag ymaelodi".

Gobeithio y bydd hyn yn help i rywun arall yn y dyfodol.

Ann



On 01/07/2013 09:15, Sioned Graham-Cameron wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Ydi "gadael" ac "ymuno" yn gweithio am opt out yn y cyd-destun? Rwyf wedi defnyddio "dewis ymuno" yng nghyd-destun cynllun pensiwn yn y gorffennol, ond falla nad yw'n ddigon manwl yn y darn sydd gennych chi.

Sioned


On 1 Jul 2013, at 00:23, Ann Corket wrote:

Tybed a oes gan Sion unrhyw wybodaeth ynghylch yr uchod hefyd? 'Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at TermCymru, gan nad yw hwnnw'n hollol clir.

Nid wyf yn hoff iawn o "contractio allan", ond nid yw "eithrio" yn gweithio bob tro (ac mae son unwaith am "opting in" hefyd).  Biti nad oes term megis "ymeithrio".

Llawer o ddiolch,

Ann