Print

Print


Mae'n swnio'n iawn i mi. Gan gofio'r hen jôc ('Dewch â phecyn bwyd'), buasai ceisio osgoi y treiglad yn syniad da!

From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Sunday, 30 June 2013, 19:40
Subject: Re: Meal deals

Diolch yn fawr! Fasa hwnna gwneud yn iawn dwi'n meddwl.  Fasa cynnwys y gair 'pecyn', h.y. 'cynigion pecyn cinio', yn rhoi syniad mai brechdan, diod a chreision neu rywbeth tebyg efo'i gilydd sydd ar gael?


2013/6/30 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
Fe wnes i ofyn i'r cylch gynnig awgrym am 'main meal mania' rai misoedd yn ôl - deunyddiau hyrwyddo ar gyfer cwmni sy'n cynnig gwasanaethau arlwyo mewn ysgolion oedd y cyd-destun. 'Cynigion cinio c^wl' oedd cynnig Geraint Lovegreen, a dyna wnes i ddefnyddio. Fuasai 'cynigion cinio' yn gwneud?
From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Sunday, 30 June 2013, 18:59
Subject: Meal deals

Oes term cydnabyddedig ar gyfer hwn, os gwelwch yn dda?  Wedi methu dod o hyd iddo yn yr Archif.

Gyda diolch
Eluned