Print

Print


Fe ges i 'ngeni a'm magu yn ardal Grangetown, Caerdydd. Glywais i ddim yr enw 'Trefaenor' ar yr ardal nes i mi ddychwelyd i Gymru yn ddeugain oed. Adamsdown yw enw'r ardal dan sylw i mi erioed.

Gareth


From: Ann Corket <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 27 June 2013, 15:51
Subject: Re: [Bulk] Re: Adamsdown

Tueddaf i gytuno a sylwadau David yn y lle cyntaf, ond os byddwch yn ceisio cyflwyno rhywbeth diarth i bobl, onid rhoi'r hen derm mewn cromfachu ar ol yr un newydd yw'r ateb bob tro?
Ann
On 27/06/2013 15:34, anna gruffydd wrote:
Ddeudwn i mai'r peth pwysig ydi i bobol fedru cael hyd i lefydd - os nad ydi'r enw'n gyfarwyd i neb, stet Adamsdown.

Anna


2013/6/27 Rhian Huws <[log in to unmask]>
Helo Siân
 
Wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 20 mlynedd bellach ac erioed wedi clywed neb yn cyfeirio at y lle fel ‘Waunadda’ – tydio’n sicr ddim ar yr arwyddion ffyrdd. Wn i ddim ydi hynny o help?
 
Rhian
 
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 27 June 2013 15:22
To: [log in to unmask]
Subject: [Bulk] Re: Adamsdown
 
Mae cyfeiriad at Waunadda yn golwg360:
 
 
Mae cyfeiriad ato hefyd mewn cylchgrawn o'r enw Tenants' Times a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn Hydref 2010.
 
From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 26 June 2013, 17:20
Subject: Adamsdown
 
Ydi "Waunadda" yn cael ei ddefnyddio o gwbl am Adamsdown, Caerdydd - ta rhywun gor-obeithiol sgrifennodd y cofnod Wikipedia?


Diolch


Siân