Print

Print


Fe ges i 'ngeni a'm magu yn ardal Grangetown, Caerdydd. Glywais i ddim yr enw 'Trefaenor' ar yr ardal nes i mi ddychwelyd i Gymru yn ddeugain oed. Adamsdown yw enw'r ardal dan sylw i mi erioed.


Gareth



________________________________
 From: Ann Corket <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] 
Sent: Thursday, 27 June 2013, 15:51
Subject: Re: [Bulk] Re: Adamsdown
 


Tueddaf i gytuno a sylwadau David yn y lle cyntaf, ond os byddwch yn ceisio cyflwyno rhywbeth diarth i bobl, onid rhoi'r hen derm mewn cromfachu ar ol yr un newydd yw'r ateb bob tro?
Ann

On 27/06/2013 15:34, anna gruffydd wrote:

Ddeudwn i mai'r peth pwysig ydi i bobol fedru cael hyd i lefydd - os nad ydi'r enw'n gyfarwyd i neb, stet Adamsdown.
>
>
Anna
>
>
>
>
>2013/6/27 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>
>Helo Siân
>> 
>>Wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 20 mlynedd bellach ac erioed wedi clywed neb yn cyfeirio at y lle fel ‘Waunadda’ – tydio’n sicr ddim ar yr arwyddion ffyrdd. Wn i ddim ydi hynny o help?
>> 
>>Rhian
>> 
>> 
>> 
>>From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
>>Sent: 27 June 2013 15:22
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: [Bulk] Re: Adamsdown
>> 
>>Mae cyfeiriad at Waunadda yn golwg360:
>> 
>>http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/113683-dyn-yn-cael-ei-wahardd-rhag-cadw-cwn-am-bum-mlynedd
>> 
>>Mae cyfeiriad ato hefyd mewn cylchgrawn o'r enw Tenants' Times a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn Hydref 2010.
>> 
>>From:Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>To: [log in to unmask] 
>>Sent: Wednesday, 26 June 2013, 17:20
>>Subject: Adamsdown
>> 
>>Ydi "Waunadda" yn cael ei ddefnyddio o gwbl am Adamsdown, Caerdydd - ta rhywun gor-obeithiol sgrifennodd y cofnod Wikipedia?
>>
>>
>>
>>Diolch
>>
>>
>>
>>Siân
>>
>>
>>
>> 
>