Diolch Dai!  Dwi'n meddwl bod ein hiaith bach ni yn eitha' dyledus i'r hen Feibl.  Neu efallai mai i'r Esgob William Morgan y dylai'r clod fod! 


2013/6/3 David Bullock <[log in to unmask]>
Deddf Cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg 1563


Seminar: 12 Mehefin 2013
2.00pm – 4.15pm

Fel rhan o ddathliadau 450 mlynedd Deddf Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg mae Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, yn trefnu seminar brynhawn dydd Mercher 12fed Mehefin yn Neuadd yr Eglwys. Bydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol ac nid yw’n rhagdybied unrhyw wybodaeth flaenorol am y maes.

Cyflwynir y seminar gan Gwynn Matthews, a dyma fydd yn cael ei drafod.

1.      Statws y Fwlgat (y Beibl Lladin) yn y Canol Oesoedd a’r cyfieithiadau cynnar i’r Gymraeg.
2.      Pwyslais y Dadeni Dysg ar ailafael yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl.
3.      Galwad y Diwygwyr Protestannaidd am gael y Beibl yn ‘iaith y bobl’.
4.      Hanes y Beibl Saesneg ac esblygiad Addoliad Cyhoeddus yn Saesneg.
5.      Y galw am Feibl a Llyfr Gweddi Cymraeg.
6.      Deddf 1563.


Bydd y seminar yn cychwyn am 2.00 o’r gloch. Bydd seibiant am baned tua 2.45. Daw’r seminar i ben am 4.15.