Print

Print


Bysedd pysgod sy'n gyfarwydd yma hefyd ac i'n plant erioed.

 

________________________________

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies
Sent: 12 June 2013 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Fish fingers

 

Dwi newydd ddod o hyd i fwydlen ysgolion cynradd Ceredigion sy'n galw fish fingers yn fysedd pysgod.

 

Melanie

 

From: SIAN ROBERTS <mailto:[log in to unmask]>  

Sent: Wednesday, June 12, 2013 2:45 PM

To: [log in to unmask] 

Subject: Re: ATB: Fish fingers

 

Hwn eto wedi mynd i sbam. Spam yn ceisio cael gwared â'r fish fingers!!

 

Tybed pam "lletem"?  Alla i weld pam fyddai rhywun yn cynnig "lletemau tatws" am "potato wedges" ond mae fish fingers yn eitha sgwâr fel rheol on'd ydyn nhw?

 

Am wn i mai "bysedd pysgod" yw'r unig beth mae pobl yn lled debygol o'i ddweud.

Ai dyna sy'n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion?

 

Siân

 

 

________________________________

From: Geraint Lewis <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] 
Sent: Monday, 10 June 2013, 10:36
Subject: Re: ATB: Fish fingers





Oni ddefnyddiwyd 'lletem bysgod' ar un adeg?
 

________________________________

Date: Mon, 10 Jun 2013 08:58:12 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: Fish fingers
To: [log in to unmask]

'bysedd pysgod' ar lafar gennym ni (yn ogystal â 'ffish ffingas') a 'bysedd pysgod' hefyd i'w weld mewn rhai llyfrau plant. Oes yw 'cig moch' yn iawn, gyda'r 'moch' yn y lluosog, wela i ddim byd o'i le â 'bys pysgod'. Mae'r plant hefyd weithiau'n dweud 'bysyn pysgod' am un.  

 

________________________________

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 09 Mehefin 2013 23:07
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Fish fingers

Hwn wedi mynd i sbam. 

 

Wedi edrych yn GyrA.  Go brin y byse "sglodion pysgod a sglodion" yn gweithio - am wn i!

A fyswn i ddim yn meddwl mai "darn pysgodyn" yw'r fish finger cyffredin, chwaith.

 

Dal dim ateb, sori!

 

Siân

 

 

 

On 2013 Meh 8, at 10:06 AM, Ann Corket wrote:

	 

	Bruce yn gofyn pam wnaethon ni ddim edrych yng Ngheiriadur yr Academi,  Hefyd, gan fod gan grancod fodiau, beth am "bawd pysgodyn" (y fawd, wrth gwrs)?
	
	Ann

	On 07/06/2013 15:07, Ann Corket wrote:

		"soldiwr" (fel gydag wy wedi'i ferwi) - dim o ddifrif, ond 'roeddwn i'n ceisio meddwl am rywbeth arall yr un siap.
		
		Gyda llaw, yn ol hen hysbyseb (Morecambe and Wise?), mae popeth yn fwy yn America.  Mae gennym ni "fish fingers"; mae ganddyn nhw "cow hands".
		
		Ann

		On 07/06/2013 13:07, Sian Roberts wrote:

			Mae "bysedd pysgod" yn gweithio'n iawn am "fish fingers" ond mae'r unigol yn fwy problemus! 

			Dyw "bys pysgodyn" na "bys pysgod" ddim yn gweithio'n dda iawn.

			Ydi hynny'n golygu bod angen bathu enw hollol wahanol?

			 

			Siân

			 

			 

			 

			On 2013 Meh 7, at 1:01 PM, Angharad Evans wrote:

				 

				Ymddiheuriadau, fi eto! 

				 

				Beth am fish fingers??!!

				 

				Diolch

				 

				Angharad