Print

Print


Claire, on'ych chi wedi ateb eich cwestiwn eich hun? 'set off a sprinkler' "peri i'r system chwystrellu dŵr" ?


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corket
Anfonwyd/Sent: 27 Mehefin 2013 15:45
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: set off

trigger2
v.t.
[-]
(a):
to trigger a gun
tanio gwn
to trigger a trap
cau trap
to trigger a mechanism
cychwyn mecanwaith
(b):
to trigger [off]
(explosion):
achosi,
peri,
ennyn
(revolution etc.):
tanio,
cychwyn,
dechrau

O GyrA - unrhyw help.  Efallai byddai "yn awtomatig" yn gwneud y tro weithiau, yn lle "yn ddamweiniol".

Ann
On 27/06/2013 12:15, anna gruffydd wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
A, doeddwn i ddim wedi meddwl y gallai fod yn ddamweiniol. Fasa 'peri agor' neu 'peri cychwyn' yn dda i rywbeth?

Anna


2013/6/27 Claire Richards <[log in to unmask]>

Yn yr achos hwn, odyn boeth mewn ystafell grefft oedd wedi peri i’r system chwistrellu dŵr trwy adeilad.  Dwi ddim yn siŵr oedd e’n ddamweiniol ai peidio.  Mae’n bosibl bod y system i fod i chwistrellu dŵr o dan amgylchiadau o’r fath er mwyn atal y gwres o’r odyn rhag achosi tân yn y nenfwd, er enghraifft.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 June 2013 11:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: set off

 

Ydi "set off" yn golygu troi ymlaen yn ddamweiniol?

 

Siân

On 2013 Meh 27, at 11:18 AM, Claire Richards wrote:



Set off a sprinkler.

 

Dwi ddim wedi dod o hyd i unrhyw beth yn y ffynonellau arferol, er i mi chwilio.

 

Ydw i wedi methu rhywbeth amlwg?  Beth fyddai pobl yn ei ddweud?

 

Ac a fyddai rhywun yn defnyddio’r un peth ar gyfer “set off an alarm”?

 

Diolch.

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.