Print

Print


Helo Ann
 
Diolch yn fawr am eich neges. Dw i wedi bod yn chwilio ers rhai blynyddoedd am dri llyfr bychan ar flodau gyhoeddwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd tua 1987 neu ychydig ynghynt. Maen nhw'n perthyn i gyfres o 6 ac mae'r tri olaf gennyf, sef:
 
4. Blodau'r Mynydd, 1987, ISBN 1 870394 15 1; 5. Blodau'r Gwrych 2, 1987, ISBN 1 870394 25 9; a 6. Blodau'r Gors, 1988, 1 870394 40 2.
 
Wn i ddim beth ydy teitlau dau ohonynt, ond mae'n amlwg mai Blodau'r Gwrych 1 ydy un! Twm Elias ydy'r awdur ac Islwyn Williams wnaeth y darluniau. Fe'u hargraffwyd gan Wasg Dwyfor, maen nhw'n A5 o ran maint ac maen nhw'n lliwgar iawn. Does gan Gymdeithas Edward Llwyd ddim copiau ohonynt.
 
Sgwn i oes gennych chi gopiau? Mi allwn i ddod i'r Morlan ddydd Sadwrn os oes.
 
Diolch yn fawr.
 
Cofion gorau
Gwenda


2013/5/6 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Gobeithio na fydd ots gan Delyth os codaf y pwnc hwn eto, gan ei bod hi wedi’i ganiatau yn y gorffennol.

 

Gobeithio y bydd gan Bruce a finnau stondin lyfrau ail lawr yn Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen, y Morlan, Aberystwyth, ddydd Sadwrn nesaf, yr 11eg o Fai, a hefyd yn Ffair Lyfrau Cyfeillion Ellis Wynne, Neuadd Talsarnau, ger Harlech, ddydd Sadwrn y 13eg o Orffennaf. (Ac, wrth gwrs, yn Ffair Lyfrau Porthaethwy, y 28ain o Fedi).

 

Mae gennym gopiau o nifer o lyfrau iaith, ond mae llyfrau fel cyfrolau Geiriadur y Brifysgol, geiriaduron eraill, Gramadeg Peter Wynn Thomas, a “The Right Word at the Right Time” yn rhy fawr inni roi lle iddynt yn y car os nad oes gan rywun ddiddordeb ynddynt.  Os hoffech *weld* unrhyw lyfr arbennig, heb ymrwymo i’w brynu, neu os ydych chi’n chwilio am lyfr iaith neu unrhyw lyfr arall, rhowch wybod ymlaen llaw.  Nid yn unig gallwn chwilio ein llyfrau ni, ond gallwn anfon at stondinwyr eraill i ofyn a oes ganddyn nhw gopi.

 

Cofion,

 

Ann Corkett

5 Heol Belmont

BANGOR

Gwynedd

LL57 2HS

 

(01248) 371987

[log in to unmask]

 

 




--
Gwenda Lloyd Wallace

Ymchwilydd Ffynonellau/Source Researcher
Cyfieithydd/Translator
Darllenydd Proflenni/Proofreader