Helo Ann Diolch yn fawr am eich neges. Dw i wedi bod yn chwilio ers rhai blynyddoedd am dri llyfr bychan ar flodau gyhoeddwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd tua 1987 neu ychydig ynghynt. Maen nhw'n perthyn i gyfres o 6 ac mae'r tri olaf gennyf, sef: 4. Blodau'r Mynydd, 1987, ISBN 1 870394 15 1; 5. Blodau'r Gwrych 2, 1987, ISBN 1 870394 25 9; a 6. Blodau'r Gors, 1988, 1 870394 40 2. Wn i ddim beth ydy teitlau dau ohonynt, ond mae'n amlwg mai Blodau'r Gwrych 1 ydy un! Twm Elias ydy'r awdur ac Islwyn Williams wnaeth y darluniau. Fe'u hargraffwyd gan Wasg Dwyfor, maen nhw'n A5 o ran maint ac maen nhw'n lliwgar iawn. Does gan Gymdeithas Edward Llwyd ddim copiau ohonynt. Sgwn i oes gennych chi gopiau? Mi allwn i ddod i'r Morlan ddydd Sadwrn os oes. Diolch yn fawr. Cofion gorau Gwenda 2013/5/6 Ann Corkett <[log in to unmask]> > Gobeithio na fydd ots gan Delyth os codaf y pwnc hwn eto, gan ei bod hi > wedi’i ganiatau yn y gorffennol.**** > > ** ** > > Gobeithio y bydd gan Bruce a finnau stondin lyfrau ail lawr yn Ffair > Lyfrau Cymdeithas Bob Owen, y Morlan, Aberystwyth, ddydd Sadwrn nesaf, yr > 11eg o Fai, a hefyd yn Ffair Lyfrau Cyfeillion Ellis Wynne, Neuadd > Talsarnau, ger Harlech, ddydd Sadwrn y 13eg o Orffennaf. (Ac, wrth gwrs, yn > Ffair Lyfrau Porthaethwy, y 28ain o Fedi).**** > > ** ** > > Mae gennym gopiau o nifer o lyfrau iaith, ond mae llyfrau fel cyfrolau > Geiriadur y Brifysgol, geiriaduron eraill, Gramadeg Peter Wynn Thomas, a > “The Right Word at the Right Time” yn rhy fawr inni roi lle iddynt yn y car > os nad oes gan rywun ddiddordeb ynddynt. Os hoffech **weld** unrhyw lyfr > arbennig, heb ymrwymo i’w brynu, neu os ydych chi’n chwilio am lyfr iaith > neu unrhyw lyfr arall, rhowch wybod ymlaen llaw. Nid yn unig gallwn > chwilio ein llyfrau ni, ond gallwn anfon at stondinwyr eraill i ofyn a oes > ganddyn nhw gopi.**** > > ** ** > > Cofion,**** > > ** ** > > Ann Corkett**** > > 5 Heol Belmont**** > > BANGOR**** > > Gwynedd**** > > LL57 2HS**** > > **** > > (01248) 371987**** > > [log in to unmask]**** > > **** > > **** > > ** ** > -- Gwenda Lloyd Wallace Ymchwilydd Ffynonellau/Source Researcher Cyfieithydd/Translator Darllenydd Proflenni/Proofreader