Ie, Geraint - o'n i'n meddwl am hynna nawr - mae'r ffaith fod y gair a gynigiwyd mor anhebygol o gael ei ddefnyddio yn dangos nad yw'r ateb yn un hawdd. Hoffwn i ymddiheuro i fathwr "sefydlyn" - mae'n ddigon hawdd beirniadu! Ond - wedyn - dyw "sefydlyn" ddim yn dweud mai cael ei chwistrellu mae'r stwff. Gallai fod yn jel neu'n gŵyr etc. Fyddai "chwistrelliad" yn nes ati i gyfleu stwff a chwistrellir o chwistrell? - "drenching of water, paint etc" yn ôl GyrA. Wrth gwrs, dydi "chwistrelliad gwallt" ddim yn llithro oddi ar y tafod chwaith - ond o leia mae wedi rhyw fath o ennill ei blwyf! O diar Siân On 2013 Mai 22, at 12:37 PM, Geraint Lovgreen wrote: > Wel os nad oes gen ti gynnig gwell ;-) > > Dwi'n gwbod mai "hairspray" mae pawb yn ddeud! > > > ----- Original Message ----- > From: Sian Roberts > To: [log in to unmask] > Sent: Wednesday, May 22, 2013 12:03 PM > Subject: Re: hairspray > > Pawb am ddechrau dweud hwnna, dydyn? > > "Ych - mae'r sefydlyn gwallt 'na'n drewi". > > Siân > > On 2013 Mai 22, at 11:31 AM, Neil Shadrach wrote: > >> Yn ôl y Termiadur Addysg ( http://www.termiaduraddysg.org/?chwilio=&page_id=4&search=hairspray#hairspray&sln=en ): >> >> hairspray = sefydlyn gwallt eg sefydlynnau gwallt >> >> >> 2013/5/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> >> Yn Ebrill 2004 y codwyd hyn ond ni chafwyd ateb boddhaol. >> Dan "spray" mae GyA yn rhoi "(= sprayer) chwistrell wallt" am Hairspray. Ond nid y "sprayer" ydw i isio'i gyfieithu ond y stwff sy'n cael ei chwistrellu dros y gwallt. >> Tybed oes gan rywun ateb erbyn hyn? >> >> Geraint >> > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3162/5846 - Release Date: 05/21/13 >