Oherwydd, yn ôl yr awdur, Jacob yw James yn Lladin, ac mae Jacobeaidd yn deillio o'r enw Lladin. Mae Iagoaidd yn swmnio braidd yn chwithig i mi, am ryw reswm. --- On Thu, 16/5/13, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: > From: Ann Corkett <[log in to unmask]> > Subject: Re: James I > To: [log in to unmask] > Date: Thursday, 16 May, 2013, 18:03 > Gwell gan Bruce "Iago", ond gwelaf > fod 'na ddadleuon ar y ddwy ochr. > Gan fod "Jacobeaidd" AC "Iagoaidd" ar gael yn Gymraeg, nid > yw'r broblem yr > un fath. > A fyddai'r awdur yn fodlon ar rywbeth ar addasiad fel un o'r > isod? > Pam ydym ni'n galw'r cyfnod hwn yn "Jacobean" yn Saesneg, ar > ôl "Jacob", yn > hytrach na "Jamesian" ar ôl "James"? > Pam ydym ni weithiau'n galw'r cyfnod hwn yn "Jacobeaidd", ar > ôl "Jacob", yn > ogystal ag "Iagoaidd", yn hytrach na "Jamesaidd" ar > ôl "James"? > Ann > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] > On Behalf Of Gareth Evans Jones > Sent: 16 May 2013 16:44 > To: [log in to unmask] > Subject: James I > > Gan gofio gwersi hanes yn y chweched dosbarth, dwi'n gwybod > mai'r arferiad > yw defnyddio Harri am Henry a chadw Edward fel y mae (peidio > defnyddio > Iorwerth). Tebyd a oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r > arferiad o ran cyfeirio > at James I - Iago ynteu James y cyntaf? Y broblem ydy, mae'r > darn yn holi, > 'Why is this period called 'Jacobean' after Jacob rather > than 'Jamesian' > after James?' Mae 'Jamesaidd' wedi'i restru yn GyrA o dan > 'Jamesian', a dwi > erioed wedi clywed 'Iagoaidd' (mae'n swnio'n chwithig iawn i > mi). A yw'n > dderbyniol cadw at James felly? >