Print

Print




Ffurfiau Cymraeg
yr elfen St., Saint yn Saesneg 


Yn ôl GPC [bnth. S.C. seint(e), neu’n uniongyrchol o’r
H.Ffr. saint, seinte. digwydd yn aml o flaen e. prs.] Mae Sant yn dilyn yr enw yn gyfarwydd inni hefyd, megis Dewi Sant, Teilo Sant


Enwau lleoedd.


Mae’n dibynnu ym mha gyfnod cafodd yr enw ei ffosileiddio.
Mae rhai enwau wedi eu diwygio, eraill ddim.


Gwelir y ffurfiau    Llan, Saint,
Sain


Sant, San, y Santes, 


Cyniga GPC mai ffurf ?yn wreiddiol o flaen s- yw San


e.e. San Siôr, San Steffan Collir y “–t” hefyd o flaen enw Sant yn dechrau gyda “T”  


 


Enghreifftiau o Geiriadur yr Academi


St. Andrews Major W.Pl.n. Saint Andras f.


St. Asaph W.Pl.n. Llanelwy f.


St. Athan W.Pl.n. Sain Tathan f.


St. Brides W.Pl.n. Sain Ffred/Ffraid f.


St. Brides Major W.Pl.n. Saint-y-brid f.


St. Brides Minor W.Pl.n. Llansanffraid-ar-Ogwr f.


St. Brides Netherwent W.Pl.n. Saint-y-brid f.


St. Brides-super-Ely W.Pl.n. Llansanffraid-ar-Elái f.


St. Brides Wentloog W.Pl.n. Llansanffraid Gwynllŵg f.


St. Clears W.Pl.n. Sanclêr f.


St. David's W.Pl.n. Tyddewi m.


St. David's Head W.Pl.n. Penmaendewi m.


St. David's Within W.Pl.n. Llan-faes f.


St. Dogmaels W.Pl.n. Llandudoch f.


St. Dogwells W.Pl.n. Llantydewi f.


St. Donat's W.Pl.n. Sain Dunwyd f;


Welsh St. Donat's, Llanddunwyd f.


St. Elvis W.Pl.n. Llaneilfyw f.


St. Fagan's W.Pl.n. Sain Ffagan f.


St. George W.Pl.n. Llan San Siôr f.


St. George's Channel Pr. n. Geog: Môr (m)
Iwerddon.


St. George-super-Ely or St. George's W.Pl.n. Sain Siorys f.


St. Harmon W.Pl.n. Saint Harmon f.


St. Hilary W.Pl.n. Saint Hilari f.


St. Ishmael W.Pl.n. Llanismel f.


St. Ishmaels W.Pl.n. Llanisan-yn-Rhos f.


St. Issells W.Pl.n. Saint Ishel f, A: Cilfelgi m,
Llanusyllt f.


St. John's W.Pl.n. (in Swansea):
Eglwys (f) Ieuan.


St. Julians' W.Pl.n. Sain Silian f.


St. Kinmark's W.Pl.n. Llangynfarch f (pronounced
ng-g).


St. Lythan's W.Pl.n. Llwyneliddon m.


St. Martins Eng.Pl.n. Llanfarthin f.


St. Mary Church W.Pl.n. Llan-fair f.


St. Mary Hill W.Pl.n. Eglwys Fair (f) y Mynydd.


St. Mary in/out Liberty W.Pl.n. Llanfair (f) Dinbych-y-Pysgod.


St. Maughan's W.Pl.n. Llanfocha f.


St. Mellons W.Pl.n. Llaneirwg f.


St. Nicholas W.Pl.n.
1.(in Glamorgan): Sain Nicolas f. 2.(in Pembrokeshire): Tremarchog f.


St. Patrick's Pool W.Pl.n. Y Borthwen f.


St. Peters W.Pl.n. Llanbedr f.


St. Petrox W.Pl.n. Sain Pedrog f.


St. Pierre W.Pl.n. Sain Pŷr f.


St. Stephen's Eng.Pl.n. San Steffan f.


St. Thomas's Chapel W.Pl.n. Mynwent (f) Tomas.


St. Tudwal's Island W.Pl.n. Ynys (f) Tudwal.


St. Twinnels W.Pl.n. Eglwys (f) Wynnio.


St. Vitus's dance n. Path: dawns (f) Sant Fitws, corea m.


St. Weonards Eng.Pl.n. Llansainwenarth f.


St. Woolos W.Pl.n. Eglwys (f) Gwynlliw.




 


 
> Date: Tue, 28 May 2013 11:00:52 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: St Paul's Cathedral
> To: [log in to unmask]
> 
> Diolch, Ann.
> Rhywbeth tarodd fi wrth basio oedd y busnes "Sant Paul" / "Dewi Sant" felly do'n i ddim wedi edrych yn GyrA.
> Falch o weld mod i'n weddol agos ati fyd!!
> 
> Siân
> 
> 
> 
> 
> On 2013 Mai 28, at 9:42 AM, Ann Corkett wrote:
> 
> > Sant Paul, meddai Bruce. Hefyd, ond oes cyngor ynghylch seintiau yn GyrA?
> > Ann
> > 
> > Sent from my iPhone
> > 
> > On 28 May 2013, at 08:42, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
> > 
> >> Cadeirlan Sant Paul 'ta Cadeirlan St Paul's?
> >> Google yn ffeindio lot mwy o'r ail - yn enwedig gan y bbc mae'n debyg.
> >> Ai dim ond am ei bod yn enwog?
> >> 
> >> Hefyd - beth yw'r drefn ar gyfer rhoi "Sant" ar ôl yr enw?
> >> Ai dim ond gydag enwau'r hen seintiau Cymreig - Dewi Sant, Teilo Sant, Cybi Sant?
> >> 
> >> Diolch
> >> 
> >> Siân
> >>