Diolch yn fawr Sian - help mawr! ________________________________ From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 30 April 2013, 19:16 Subject: Re: Avon and Somerset Mae rhestr o enwau heddluoedd Cymru a Lloegr yma: http://www.ipcc.gov.uk/cy/pages/professional_standards_contact_details.aspx Wn i ddim pa mor "swyddogol" yw hi ond mae'n cadarnhau "Avon a Gwlad yr Haf" Siân On 2013 Ebrill 30, at 7:10 PM, CATRIN ALUN wrote: Cyfeiriad at y llu heddlu sy yn y ddogfen. >Diolch yn fawr am wybodaeth hynod ddiddorol! > >Catrin > > >From: Sion Rees Williams <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Sent: Tuesday, 30 April 2013, 18:39 >Subject: Re: Avon and Somerset > > > >Aquae Sulis oedd yr hen enw a roddwyd ar Gaerfaddon, gyda'r Rhufeiniaid yn cymhathu'r enw am dduwies Geltaidd - Sulis - (duwies leol o bosibl) gyda'u henw nhw am 'dyfroedd'. Roedd nodweddion Sulis yn debyg iawn i rai Minerva, felly roedd yn 'hawdd' i'r eltiaid fabwysiadu i'r pax Romana yno nac mewn ambell i le arall. > >'Abona' oedd yr hen air Cymraeg am afon a ddaeth yn 'afon' yn ddiweddarach yn hanes y Gymraeg. (Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg, t. 34) > >Credaf mai y Silures sydd gan Eurwyn dan sylw ... Gogs oedd yr Ordovices gan fwyaf. Haerai fy nhad yn dra aml mai ef oedd yr olaf o'r tylwyth hwnnw, gan iddo fwy am gymaint o'i fywyd yng nghysgod Dinas Dinorwig, Arfon, caer o Oes yr Haearn sy'n unigryw yn Ynysoedd Prydain. > >Diddorol oedd gweld hefyd yr 'Avon and Somerset' yma hefyd. Onid gyda'r heddlu yr arddelir hwn mwyach? (Megis Heddlu Dyfed-Powys hwythau?) > >Pob dymuniad da, > > >Siôn > >Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL. > >(Siôn o Ewrop) > >Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth >Lawyer by training, Linguist by profession >Notaire de formation, Linguiste de profession > > >62 Northview Road >DUNSTABLE >Bedfordshire >LU5 5HB >Lloegr/England/Angleterre > >Tel. + 44 (0)1582 476 288. >Mob. + 44 (0)7599 262 247. > > > >http://uk.linkedin.com/in/sionrwilliams > > >From: Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Sent: Tuesday, April 30, 2013 6:08 PM >Subject: Re: Avon and Somerset > > > >Fel un syth newydd ddychwelyd yr wythnos ddiwethaf o Gaerfaddon, gallaf ddweud i mi fynychu darlith dwristaidd ar hanes Rhufeinig y lle, a chael ar ddeall bod gan y brodorion enw brodorol ar y dref honno yn y dyddiau a fu, ac hefyd ar yr afon sy'n rhedeg drwy'r ddinas - sef Avon - a roddodd yn ei dro yr enw i ddyffryn ac ardal ehangach yr afon honno ('Avon'). Y stori a ddywedwyd wrthym ni oedd hyn: > >Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i gymryd drosodd a gorchfygu'r parthau hyn o Brydain, doedd neb o'r trigolion yn deall Rhufeineg, a neb o'r Rhufeinwyr yn deall yr iaith 'Geltaidd' frodorol. Felly, pan geisiodd y Rhufeiniaid holi'r brodorion lleol (oedd o dras Celtaidd) drwy bwyntio bys at yr afon, i geisio cael gwybod beth oedd union enw'r afon honno, atebodd y brodion - gan ddychmygu mai holi roedd y concwerwyr yn ôl pa enw roedd y trigolion yn cyfeirio at afon - gan ddweud 'Afon' yn gwbl ddiniwed. Glynodd yr enw hwnnw felly drwy gamddealltwriaeth, fel yr enw i'w fathu gan y Rhufeiniad concwerol ar afon neilltuol dan sylw. > >Ond os holwch chi yn y man priodol, fe ganfyddwch chi fod gan y bordorion cyn-Rufeinig yn y fro honno ('Ordivices' ? - dydw i ddim yn cofio'n iawn) eu henw hwy eu hunain ar yr afon (ac felly'r ardal oddi amgylch) a hefyd ar ddinas Bath ei hun. Fe ddywedwyd wrthym ni yn y cyflwyniad y gwrandewais i arno, beth oedd yr union enwau hynny; ond mae'n ddrwg gen i nad ydw i'n cofio. Dw i'n sicr na fyddai'n hi'n dasg anodd o chi ddod o hyd i'r cyfryw eiriau; a dydw i'n amau dim - gan mai enwau Celtaidd oedd y rhai gwreiddiol - y byddai'n dderbyniol i'w defnyddio nhw heddiw (yn yr unfed ganrif ar hugain bresennol) mewn cyd-destun Cymreig. > >Eurwyn. >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol >Sent: 30 April 2013 17:35 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Avon and Somerset > > >Swnio'n berffaith iawn I fi >On Apr 30, 2013 5:27 PM, "CATRIN ALUN" <[log in to unmask]> wrote: > >Diolch - dyna o'n i'n deimlo. >> >> >>From: MEG ELIS <[log in to unmask]> >>To: [log in to unmask] >>Sent: Tuesday, 30 April 2013, 17:26 >>Subject: Re: Avon and Somerset >> >> >> >>Faswn i'n deud ei fod o'n iawn. Mae Gwlad yr Haf yn eitha adnabyddus, ond mi fasa "Afon" yn swnio braidd yn od..... >>From: CATRIN ALUN <[log in to unmask]> >>To: [log in to unmask] >>Sent: Tuesday, 30 April 2013, 17:24 >>Subject: Avon and Somerset >> >> >> >>Beth yw barn y cylch am gyfieithu enw'r awdurdod lleol uchod? >> >> >>Ydy Avon a Gwlad yr Haf yn swnio braidd yn od? >> >> >>Catrin >> >> >> >> >> > > > >