Fel un syth newydd ddychwelyd yr wythnos ddiwethaf o Gaerfaddon, gallaf ddweud i mi fynychu darlith dwristaidd ar hanes Rhufeinig y lle, a chael ar ddeall bod gan y brodorion enw brodorol ar y dref honno yn y dyddiau a fu, ac hefyd ar yr afon sy'n rhedeg drwy'r ddinas - sef Avon - a roddodd yn ei dro yr enw i ddyffryn ac ardal ehangach yr afon honno ('Avon').  Y stori a ddywedwyd wrthym ni oedd hyn:
 
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i gymryd drosodd a gorchfygu'r parthau hyn o Brydain, doedd neb o'r trigolion yn deall Rhufeineg, a neb o'r Rhufeinwyr yn deall yr iaith 'Geltaidd' frodorol.  Felly, pan geisiodd y Rhufeiniaid holi'r brodorion lleol (oedd o dras Celtaidd) drwy bwyntio bys at yr afon, i geisio cael gwybod beth oedd union enw'r afon honno, atebodd y brodion - gan ddychmygu mai holi roedd y concwerwyr yn ôl pa enw roedd y trigolion yn cyfeirio at afon - gan ddweud 'Afon' yn gwbl ddiniwed.  Glynodd yr enw hwnnw felly drwy gamddealltwriaeth, fel yr enw i'w fathu gan y Rhufeiniad concwerol ar afon neilltuol dan sylw.
 
Ond os holwch chi yn y man priodol, fe ganfyddwch chi fod gan y bordorion cyn-Rufeinig yn y fro honno  ('Ordivices' ? - dydw i ddim yn cofio'n iawn) eu henw hwy eu hunain ar yr afon (ac felly'r ardal oddi amgylch) a hefyd ar ddinas Bath ei hun.  Fe ddywedwyd wrthym ni yn y cyflwyniad y gwrandewais i arno, beth oedd yr union enwau hynny; ond mae'n ddrwg gen i nad ydw i'n cofio.  Dw i'n sicr na fyddai'n hi'n dasg anodd o chi ddod o hyd i'r cyfryw eiriau; a dydw i'n amau dim - gan mai enwau Celtaidd oedd y rhai gwreiddiol - y byddai'n dderbyniol i'w defnyddio nhw heddiw (yn yr unfed ganrif ar hugain bresennol) mewn cyd-destun Cymreig.
 
Eurwyn.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol
Sent: 30 April 2013 17:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Avon and Somerset

Swnio'n berffaith iawn I fi

On Apr 30, 2013 5:27 PM, "CATRIN ALUN" <[log in to unmask]> wrote:
Diolch - dyna o'n i'n deimlo.


From: MEG ELIS <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 30 April 2013, 17:26
Subject: Re: Avon and Somerset

Faswn i'n deud ei fod o'n iawn. Mae Gwlad yr Haf yn eitha adnabyddus, ond mi fasa "Afon" yn swnio braidd yn  od.....
From: CATRIN ALUN <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 30 April 2013, 17:24
Subject: Avon and Somerset

Beth yw barn y cylch am gyfieithu enw'r awdurdod lleol uchod?  

Ydy Avon a Gwlad yr Haf yn swnio braidd yn od?

Catrin