Sori am fod yn biwis bore ma! Diolch i Eurwyn am ei drafferth! Geraint ----- Original Message ----- From: Dafydd Timothy To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, April 17, 2013 10:22 AM Subject: Re: Isho - eisiau Diolch i bawb am eu sylwadau ... ac yn enwedig i Eurwyn - dylwn i fod wedi 'prynu'r llyfr' i safio'r holl eglurhad!! ;-) On 17/04/2013 09:48, Geraint Lovgreen wrote: Yn hollol Ifan, mae o'n reit syml, dwi ddim yn gweld bod angen truth i gymhlethu'r mater. Geraint ----- Original Message ----- From: ifan prys To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, April 16, 2013 9:50 PM Subject: Re: Isho - eisiau Onid yr arfer yma o ran ynganu yw fod si + llafariad yn cael ei ynganu fel sh- e.e. siop, Sian, siarad ac ati a bod si + cytsain yn aros yn si- e.e. sinc, sidan, sef yr 'eithriadau' y mae Eurwyn yn cyfeirio atynt. Ifan From: Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 16 April 2013, 18:16 Subject: Re: Isho - eisiau Ie, mae yna reol sy'n mynegi bod 's' sy'n cael ei dilyn gan 'i' yn y Gymraeg, yn aml iawn iawn (er nad bob tro ychwaith, sylwer) yn newid sain yr 's' i 'sh' - yn enwedig felly yn achos geiriau a fabwysiadwyd o'r Saesneg (sydd YN cynnwys y sain 'sh...' yn y Saesneg gwreiddiol), e.e. shop > siop, show > sioe, shape > siâp, sure > siwr, ... Yn yr achosion hyn, bron y gellir ysgrifennu'r rheol fod gair Saesneg sy'n cychwyn gydag 'sh..'yn ddieithriad yn cael ei fynegi yn y Gymraeg ysgrifenedig fel 'si...' a'i ynganu ar lafar fel 'shi...' Hyd yn oed yn y gair 'sugar' (sydd â sain 'sh' ar lafar i'r 's' yn y cyfryw achos, er nad yw'r 'h' mewn gwirionedd, yn 'llythrennol' ymddangos yn y Saesneg ysgrifenedig) > yn y Gymraeg mae'r sain 'sh' yn cael ei gario i mewn i'r gair > siwgr neu siwgwr (h.y. shiwgr neu shiwgwr - gydag effaith llafariad ymwthiol 'w' ar y diwedd efallai, wastad a glywir ar dafod leferydd). A hefyd, yn achos nifer o eiriau yn y Gymraeg sydd wedi dod o eiriau Saesneg yn dechrau gyda 'J', 'Sh' neu 'Ch', fe'u bathwyd i'r Gymraeg drwy gyfrwng 'Si...' a lle y bo'r 's' (pan ddilynir hi gydag 'i') yn cynrychioli'r sain 'sh' + 'i...'; megis yn - chamber > siambr (shiambr ar lafar), shale > siâl, jacket > siaced, chant > siant, shock > sioc, journey > siwrnai, jumper > siwmper, challenge > sialens, chart > siart, chocolate > siocled, Japan > siapan, Chinese > Sieinead. Y sain 'shi...' sydd i bob un o'r geiriau Cymraeg, yn y cyfan o'r achosion uchod; er gwaethaf eu sillafu'n ysgrifenedig fel 'si...'. Felly, mewn nifer helaeth o achosion, bob tro y gwelir cyfuniad y llythrennau 'si...' mewn gair Cymraeg, fe ddylid rhoi i'r llythyren 's' y sain 'sh'. Mae'r rheol hefyd yn cael ei benthyg yn achos geiriau o Gymraeg cynhenid, megis siarad (er mai'n ffonetig felly yr ysgrifennir y gair, 'shiarad' serch hynny a glywir ar lafar); ac er mai Siôn a Siân a ysgrifennir, yr hyn a glywir yn ddiwahân yw Shiôn a Shiân. Wrth gwrs bod yna nifer o eithriadau pan na ddylid rhoi'r sain 'shi...' i'r llythrennau 's' + 'i' + '...'; megis yn sibrwd, sidan, sinc, siriol, siw ('... na miw'), sir, siglo, siglen, sinema, sillaf, siffrwd, sigâr, sifil, sicrwydd, ... A dilyn yr egwyddorion uchod, mae'n debyg bod ychydig o amrywiaeth tafodieithol yn peri i ni glywed - yn y gair 'eisiau' er enghraifft - y bydd y deheuwyr yn sicr yn tueddu i ymwthio'r sain 'sh' i'r cyfuniad o '...+s+i+...' ('Mae d'eishiau Di bob awr'), tra bod y gogleddwyr yn gyffredinol yn tueddu i gadw'r 's' ychydig yn burach ei sain ('Mae d'eisiau Di ...') - heb bron ddim arlliw o'r '...+sh+i+...' yn yr '...s+i+ ...' mewn rhai mannau. Wedyn, o dafodieithu eisiau > isio, teimlaf yn hyderus na ddylid dangos yr 'sh' yn y sillafiaeth. Dichon yn wir mai'r hyn a glywir ar lafar yn y parthau mwyaf deheuol o'r wlad fydd 'ishio'; ac felly efallai drwy'r rhan fwyaf o'r ardaloedd gogleddol hefyd (hwyrach yn wir mai prin y clywir 'isio' heb y mymryn lleiaf o'r sain 'sh' ynddo). Serch hynny, a dilyn yr egwyddor mai 'shoc' fyddai rhywun yn ei ddweud, er gwaethaf ei ysgrifennu fel 'sioc', felly yn yr un modd, 'isio' (heb yr 's+h') fyddai'n fwy naturiol (a safonol hwyrach) i ni i'w ganfod yn ysgrifenedig, er gwaethaf mai 'ishio' y byddai rhywun yn fwy tebygol o'i glywed ar lawr gwlad (yn y rhan fwyaf o barthau'r wlad o leiaf). Ond i ni gyfieithwyr testunau ysgrifenedig, wedi'r cyfan dydyw hi ddim cymaint o ots beth y bydd pobl yn llythrennol yn ei ynganu (does bosib nad oes rywfaint o ryddid i bawb gymhwyso ei dafodiaith ei hun, yma ac acw, wrth siarad); eithr yr hyn sy'n bwysicach, efallai, yw bod ryw ychydig mwy o gysoni yn digwydd yn y ffurfiau orgraffyddol, ledled ein tiriogaeth. Does dim angen dangos yr 'h' felly, yn 'isio'; boed hawl i unrhyw un ddweud 'ishio' ar lafar os felly y mynn, yn ôl ei fympwy ef/hi ei hun, ond bydd 'isio' yn ddigon derbyniol at ddibenion ei ysgrifennu. Eurwyn. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 16 April 2013 15:04 To: [log in to unmask] Subject: Re: Isho - eisiau isio yn hytrach nag isho, ie? ----- Original Message ----- From: "Dafydd Timothy" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, April 16, 2013 2:46 PM Subject: Isho - eisiau > Wrthi'n cyfieithu pecyn sy'n bennaf i bobl ifanc a phlant hŷn, a hynny yng > Ngwynedd yn bennaf... > > Fase chi'n hapus i weld 'isho' yn hytrach nag 'eisiau' yn cael ei sgwennu, > ydi o'n dderbyniol ... ac yn safonol?? > Diolch am eich sylwadau ymlaen llaw, > > Dafydd > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 3162/5747 - Release Date: 04/15/13 > No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2241 / Virus Database: 3162/5749 - Release Date: 04/16/13 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2241 / Virus Database: 3162/5749 - Release Date: 04/16/13