Print

Print


Problem debyg yw un sydd wedi codi gen i'r wythnos hon, sef cyfieithu enwau
dogfennau/strategaethau swyddogol.

 

e.e.

Gwasanaethau Arlwyo Aberbrechdan: Strategaeth ar gyfer Newid

 

Mae corff y testun Saesneg yn cynnwys enw'r strategaeth heb italic na
dyfynnod, felly er cysondeb, mae angen cadw hynny yn y Gymraeg, ond mae'n
darllen yn ofnadwy gyda a heb dreiglad:

 

Eglurodd y Cyngor ei safbwynt yn Gwasanaethau Arlwyo Aberbrechdan:
Strategaeth ar gyfer Newid, gan nodi...

 

Yr ateb naturiol yw ychwanegu ' y ddogfen' o flaen yr enw, ond dydyn nhw
ddim yn ddogfennau bob tro, a gan fod Strategaeth eisoes yn y teitl, mae'r
dewis yna'n amhosib hefyd.

 

Oes gan rywun unrhyw driciau bach handi sy'n gweithio gyda'r math hwn o
beth? Byddwn yn fythol ddiogel os oes.

 

Catrin

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 02 April 2013 19:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: treiglo enwau cyrff

 

Mae hyn yn dipyn o gur pen i minna hefyd. Dwi’n cofio flynyddoedd yn ol
meddwl ei bod yn chwithig nad oedd Banc Midland eisiau i ni dreiglo gan mai
enw’r ‘brand’ oedd hwnnw, a Dw^r Cymru yn yr un modd, ond buan iawn y
deuthum I arfer efo hynny. Dw i’n dueddol o fod yn anghyson erbyn hyn, rhaid
cyfaddef, a gwyro i ddymuniadau’r cwsmer. Hyd yn gwn i, does dim egwyddor
bendant gan y Llywodraeth na’r Cynulliad.

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 02 April 2013 18:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: treiglo enwau cyrff

 

Diolch, bawb

 

Ond dydi cyngor Rhiannon Ifans ddim yn gweithio bob tro. Mae busnesau o'r
enw "Bodlon" a "Calan" ond fyddech chi ddim yn dweud "Rwy'n gweithio i
Fodlon" na "Mae gan Galan saith swyddfa". Mae cyngor cbs214 yn gweithio yn
yr enghreifftiau hynny - "Mae gan gwmni Bodlon dair swyddfa" ond dydw i ddim
mor siwr am "Mae gan gorff Cyfoeth Cymru Gyfan  fil o weithwyr".

 

Dal yn y niwl!

 

Siân

 

 

 

 

On 2013 Ebrill 2, at 6:22 PM, David Bullock wrote:

 

Mae yna enghreifftiau o dreiglo ac o beidio â threiglo ar wefan y
Llywodraeth, e.e.

 

 
<http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/consmanagement/seb/;jsess
ionid=AFE2B54AF360E91423760E05787A19C2?lang=cy>
http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/consmanagement/seb/;jsessi
onid=AFE2B54AF360E91423760E05787A19C2?lang=cy

 

 
<http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/consmanagement/nef/public
ations/seb/customers-suppliers-partners/?lang=cy>
http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/consmanagement/nef/publica
tions/seb/customers-suppliers-partners/?lang=cy

 

Ond yn y Golygiadur, tud 400, dan y pennawd "Treiglo enwau cwmnïau,
gwerthwyr nwyddau ac ati", cyngor Rhiannon Ifans yw treiglo'r enw "os yw'n
un Cymraeg neu'n un digon Cymreig ei naws".

 

Gwell treiglo felly, ifa?

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 02 Ebrill 2013 17:36
To: [log in to unmask]
Subject: treiglo enwau cyrff

 

A fyddai'n well cael rhyw fath o gytundeb nawr - ydyn ni am gyfieithu enw
"Cyfoeth Naturiol Cymru"?

 

Mae rhai enghreifftiau o'r enw wedi'i dreiglo ar y we ond maen nhw'n swnio'n
chwithig braidd i mi:

 

"Bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i Gyfoeth Naturiol Cymru"

"Elusen yn gosod naw sialens allweddol i Gyfoeth Naturiol Cymru"

 

 Gwell peidio?

 

Diolch

 

Siân