Ar ba sail maen nhw'n dweud hynny? Gwrywaidd ydio yn ôl Geiriadur y Brifysgol. Geraint ----- Original Message ----- From: "Carolyn" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, April 09, 2013 10:00 AM Subject: ATB: prostate Yn ôl Geiriadur yr Academi a Cysgair, benywaidd yw prostad. Carolyn -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth Evans Jones Anfonwyd/Sent: 08 Ebrill 2013 22:40 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: prostate Dwi wrthi'n cyfieithu taflen am ganser y prostad. Wrth gyfeirio at 'prostate cancer', dwi'n cymryd mai 'canser y prostad' yw'r ffurf ddylwn i ddefnyddio, nid 'canser y brostad'. Wedi dweud hynny, mae gwefan ambell sefydliad, fel y GIG a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys y ddwy fersiwn. Wrth gyfeirio at 'prostate gland' - chwarren brostad. Beth am 'the prostate', e.e. yn y frawddeg 'The prostate is the size of a walnut'? Lle mae'r Saesneg yn cyfeirio at 'the prostate', a ddylid defnyddio 'y chwarren brostad' yn Gymraeg? Dwi'n cymryd mai ffurf gryno o 'prostate gland' ydy 'the prostate' - a ddylwn i gyfeirio ati'n ddi-feth fel 'y chwarren brostad' yn Gymraeg? Mae 'y brostad' yn swnio'n chwithig braidd i mi, am ryw reswm. ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5733 - Release Date: 04/08/13