Diolch Tim, Mary a Geraint am eich sylwadau. Un ‘n’ fydd hi o bosib felly oni bai bod rhywun yn sgrechian arna i i beidio yn y cyfamser! Linda From: Geraint Lovgreen Sent: Monday, March 04, 2013 1:03 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: Tennis / Tenis Ydi o'n rhywbeth i'w wneud efo rheol y glust? Mae Cymraeg y De yn fwy abl i wahaniaethu yn y fan hyn, gan ei bod yn gallu clywed y gwahaniaeth rhwng, er enghraifft, y ddwy o yn "tonau" a "tonnau". Mae'r gyntaf yn swnio'n debycach i "tônau". O ddilyn y rheol honno, "tennis" sy'n gywir achos dydi'r e ddim yn ysgafn fel y mae mewn gair fel "gwenu", ond yn drwm fel yn "cennin". Ac o ran y treiglad - wel mae pêl denis yr un mor rhyfedd (Denis Law, Denis Thatcher - un 'n' sori Linda!) OND er dweud hynna i gyd, efo un 'n' fydda i'n arfer sgwennu 'tenis' !!!! Hollol anghyson dwi'n gwbod, ond dwi'n amau mai peth diweddar ydi'r dyblu n yma yn tennis ac mai un 'n' ddysgwyd i mi yn yr ysgol. Geraint ----- Original Message ----- From: Mary Jones To: [log in to unmask] Sent: Monday, March 04, 2013 11:46 AM Subject: Re: Tennis / Tenis Dydw i ddim yn siwr a oes ‘rheol’ yn mynnu mai dwy n sy. O ran ei darddiad, does dim rheswm dros ddwy n, heblaw dilyn y tarddiad Saesneg. Mae Geiriadur y Brifysgol yn rhoi dewis o’r ddau sillafiad ym mhobman, ac mae yna enghreifftiau di-ri o ‘tenis’ mewn fersiynau cynnar, os yw hynny o bwys. Mae nifer o ffynonellau’n rhoi ‘tenis’ a nifer yn rhoi ‘tennis’, felly dyw hi ddim yn bosib bod yn benodol, hyd y gwela i. Pawb â’i gaib? Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Linda Griffiths Sent: 04 March 2013 09:54 To: [log in to unmask] Subject: Tennis / Tenis ‘Tennis’ gyda dwy ‘n’ sy’n gywir yn ôl y rheolau dwi’n gwbod, ond dwi wedi defnyddio ‘tenis’ yn y gorffennol, ac yn cael fy nhemtio i wneud hynny eto am y rhesymau canlynol: Roedd ‘Tennis Wales’ eisoes yn defnyddio ‘Tenis Cymru’ ar ei logo, felly cadwais at ‘tenis’ er cysondeb. Mae ‘Tennis’ yn edrych yn od ac yn Seisnigaidd i mi ac yn mynd yn gwbl groes i’r graen am ryw reswm. O dreiglo’r gair mae’n edrych yn fwy od, ac yn chwerthinllyd bron e.e. canolfan dennis, pêl dennis – (Dennis Thatcher, Dennis the Menace?!) ‘Tennis’ sydd yn GyA, Cysgair ac ati, felly mae’n siwr mai plygu i’r drefn fydd raid a dilyn y rheolau yn hytrach na fy ngreddf, ond hoffwn farn aelodau’r cylch ar y mater – rhag ofn bod ‘na ambell i rebel arall yn eich plith! Mae hwn yn adnodd ar gyfer holl ysgolion uwchradd Cymru felly mae’n bwysig fy mod yn gwneud y peth iawn. Diolch Linda No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2641/5646 - Release Date: 03/03/13