Bosib bod sylw pellach yn rhy hwyr ond yn ateb beth bynnag rhag ofn. Ia, efallai bod 'trefniant' yn well gair - mae'n cyfleu rhywbeth mwy gorffenedig, trefn y symudiadau o ddechrau'r ddawns hyd ei diwedd - ond efallai basai'n rhaid defnyddio'r geiriau 'y ddawns' ar ei ôl er mwyn gwahaniaethu rhwng trefniant yr alaw a threfniant y ddawns. Tybed beth maen nhw'n ei ddefnyddio yn nhermau dawns werin - siawns nad oes ganddyn nhw air Cymraeg yn y cyswllt hwn. Eluned 2013/3/1 Melanie Davies <[log in to unmask]> > Beth am ‘trefniant’? Ydy hyn yn cyfleu’r ystyr o drefn a dilyniant? > Dyna beth fyddech chi’n ei wneud gyda chân cerdd dant. > > Melanie > > *From:* Carolyn <[log in to unmask]> > *Sent:* Friday, March 01, 2013 11:58 AM > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB: routine (dawns) > > > Ond dw i'n meddwl bod rhaid i'r gair gyfleu'n union beth yw ystyr > 'routine'. Dydy 'dawns' ddim - mae'n rhy gyffredinol. 'Dilyniant' neu > 'drefn symudiadau' arbennig sy'n creu'r 'routine' ond nid nhw yw'r > 'routine'. Dyna sut dw i'n gweld hi.**** > > Carolyn**** > > **** > ------------------------------ > > *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Ann > Corkett > *Anfonwyd/Sent:* 01 Mawrth 2013 11:55 > *At/To:* [log in to unmask] > *Pwnc/Subject:* Re: routine (dawns)**** > > **** > > **** > > **** > > Tria wrthsefyll temtasiwn! Derbyniaf fod angen termau yn yr iaith > gwreiddiol ar gyfer criced a bale a ioga, ond siawns ein bod ni’n medru > mynegi ein hunain yn Gymraeg yn achos dawns. Efallai gall y term a > defyddir – dawns, dilyniant, trefn symudiadau – amrywio yn ol pa mor > arbenigol fydd y testun a’r darllenwyr.**** > > **** > > Ann**** > > **** > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 01 March 2013 11:10 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: routine (dawns)**** > > **** > > Dyna un o'r meini tramgwydd, te, bod routine yn golygu dau os nad tri > pheth gwahanol. Ar ol y drafodaeth ar dermau theatr, dwi'n cael fy nhemtio > i awgrymu rwti^n!!! > > Anna**** > > 2013/3/1 Eluned Mai <[log in to unmask]>**** > > Dwi'n meddwl bod 'routine' mewn dawns yn cyfeirio at drefn o symudiadau > sydd wedi eu creu ar gyfer dawns arbennig ac mae trefn i'r symudiadau sy'n > llifo o un symudiad i'r llall - weithiau mae'r symudiadau'n cael eu > hailddawnsio a thro arall mae un symudiad yn datblygu o'r llall. Ddim yn > ddigon arbenigwr i egluro yn iawn, ond mae o'n rhyw fath o 'sequence' dwi'n > meddwl. > > Eluned**** > > 2013/3/1 Dafydd <[log in to unmask]>**** > > On 01/03/2013 10:29, Ann Corkett wrote:**** > > **** > > Mae “darn” yn swnio’n iawn, ond buaswn i’n meddwl y gwnai “dawns” ar ei > ben ei hun y tro’n aml. Mae GyrA yn awgrymu “act arferol” ar gyfer > “routine”, ond cymeraf y byddai angen dweud rhywbeth fel “un o’u dawnsiau > arferol”, gan na fyddai dim ond **un** “ddawns arferol” yn rhaglen y > dawnswyr. (a hefyd, mae perygl y byddai’r byd creadigol yn gweld rhywbeth > ychydig bach yn ddifriol mewn “arferol”??)**** > > Ann**** > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>] > *On Behalf Of *Catrin Alun > *Sent:* 28 February 2013 18:28 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: routine (dawns)**** > > **** > > Darn. (Fel darn llefaru/canu). > > Sent from my iPhone**** > > > On 28 Feb 2013, at 17:34, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:**** > > 'Dilyniant' efallai, ond ddim yn siwr o hyn.**** > > 2013/2/28 anna gruffydd <[log in to unmask]>**** > > Act di'r gora dwi di'i gael - yn cael ei berfformio mae o ta'n rhan o > ymarfer? > > Anna**** > > **** > > 2013/2/28 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>**** > > Oes yna ddawnswyr yn ein plith? Beth fyddai'r term am routine ym myd dawns? > **** > > **** > > h.y. "a dance routine"**** > > **** > > **** > > Beth am gyfuno'r syniadau a dweud 'rhaglen ddawns'?**** > > **** > > **** >