Mae 'na lot luniau ar y we wrth wglo rhag ofn bod hynny'n help - cnapiau'n edrych yn gynnig da i fi. Wela'i ddim eu bod nhw'n debyg iawn i sosej. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth Evans Jones Anfonwyd/Sent: 04 Mawrth 2013 14:52 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Sausage Beard-lichen Newydd weld hwn mewn dogfen pdf ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: Didymodon tomaculosus Sausage beard-moss - Mwsogl barfog cnapiau hirion Tybed a ellir cyfnewid 'mwsogl' am 'cen'? 'Cen barfog cnapiau hirion' o bosibl? Defnyddir barfog i ddisgrifio sawl math o rywogaeth yn yr un ddogfen (Lesser bearded stonewort - Rhawn-yr-ebol barfog, Bearded red seaweed - Gwymon coch barfog), ond dydw i ddim yn ddigon o arbenigwr ar fyd natur i wybod a ydy cnapiau hirion yn addas i ddisgrifio cen. --- On Mon, 4/3/13, Translation Unit <[log in to unmask]> wrote: From: Translation Unit <[log in to unmask]> Subject: Sausage Beard-lichen To: [log in to unmask] Date: Monday, 4 March, 2013, 14:25 Prynhawn da gyfeillion, Wedi dod ar draws enw anghyfarwydd ar fath o gen ac yn pwslo a oes rhywun wedi ei gyfieithu o’r blaen neu’n ffansio bathu term priodol amdano? Sausage Beard-lichen / Usnea articulata Diolch. Pob hwyl, Aled Aled Eynon Cyfieithydd/Translator Adeilad/Building 2 Parc Dewi Sant Caerfyrddin/Carmarthen Ffôn/Tel: 6135 E-bost/E-mail: [log in to unmask]