Newydd weld hwn mewn dogfen pdf ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
Didymodon tomaculosus
Sausage beard-moss - Mwsogl barfog cnapiau hirion
Tybed a ellir cyfnewid 'mwsogl' am 'cen'? 'Cen barfog cnapiau hirion' o bosibl? Defnyddir barfog i ddisgrifio sawl math o rywogaeth yn yr un ddogfen (Lesser bearded stonewort - Rhawn-yr-ebol barfog, Bearded red seaweed - Gwymon coch barfog), ond dydw i ddim yn ddigon o arbenigwr ar fyd natur i wybod a ydy cnapiau hirion yn addas i ddisgrifio cen.
|