Print

Print



Ydi o'n rhywbeth i'w wneud efo rheol y glust? Mae Cymraeg y De yn fwy abl i wahaniaethu yn y fan hyn, gan ei bod yn gallu clywed y gwahaniaeth rhwng, er enghraifft, y ddwy o yn "tonau" a "tonnau". Mae'r gyntaf yn swnio'n debycach i "tônau".
 
O ddilyn y rheol honno, "tennis" sy'n gywir achos dydi'r e ddim yn ysgafn fel y mae mewn gair fel "gwenu", ond yn drwm fel yn "cennin".
 
Ac o ran y treiglad - wel mae pêl denis yr un mor rhyfedd (Denis Law, Denis Thatcher - un 'n' sori Linda!)
 
OND er dweud hynna i gyd, efo un 'n' fydda i'n arfer sgwennu 'tenis' !!!!  Hollol anghyson dwi'n gwbod, ond dwi'n amau mai peth diweddar ydi'r dyblu n yma yn tennis ac mai un 'n' ddysgwyd i mi yn yr ysgol.
 
Geraint
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Mary Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 04, 2013 11:46 AM
Subject: Re: Tennis / Tenis

Dydw i ddim yn siwr a oes ‘rheol’ yn mynnu mai dwy n sy. O ran ei darddiad, does dim rheswm dros ddwy n, heblaw dilyn y tarddiad Saesneg. Mae Geiriadur y Brifysgol yn rhoi dewis o’r ddau sillafiad ym mhobman, ac mae yna enghreifftiau di-ri o ‘tenis’ mewn fersiynau cynnar, os yw hynny o bwys.  Mae nifer o ffynonellau’n rhoi ‘tenis’ a nifer yn rhoi ‘tennis’, felly dyw hi ddim yn bosib bod yn benodol, hyd y gwela i. Pawb â’i gaib?

Mary   

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Linda Griffiths
Sent: 04 March 2013 09:54
To: [log in to unmask]
Subject: Tennis / Tenis

 

‘Tennis’ gyda dwy ‘n’ sy’n gywir yn ôl y rheolau dwi’n gwbod, ond dwi wedi defnyddio ‘tenis’ yn y gorffennol, ac yn cael fy nhemtio i wneud  hynny eto am y rhesymau canlynol:

 

Roedd ‘Tennis Wales’ eisoes yn defnyddio ‘Tenis Cymru’ ar ei logo, felly cadwais at ‘tenis’ er cysondeb.

Mae ‘Tennis’ yn edrych yn od ac yn Seisnigaidd i mi ac yn mynd yn gwbl groes i’r graen am ryw reswm.

O dreiglo’r gair mae’n edrych yn fwy od, ac yn chwerthinllyd bron e.e. canolfan dennis, pêl dennis –  (Dennis Thatcher, Dennis the Menace?!)

 

‘Tennis’ sydd yn GyA, Cysgair ac ati, felly mae’n siwr mai plygu i’r drefn fydd raid a dilyn y rheolau yn hytrach na fy ngreddf, ond hoffwn farn aelodau’r cylch ar y mater – rhag ofn bod ‘na ambell i rebel arall yn eich plith! 

 

Mae hwn yn adnodd ar gyfer holl ysgolion uwchradd Cymru felly mae’n bwysig fy mod yn gwneud y peth iawn.

 

Diolch

Linda

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2641/5646 - Release Date: 03/03/13