Print

Print


Ystafell sy'n *gallu* bod yn wlyb ydi hi - ond mi allai fod yn sych, ac mae hi'n dal yn "wet-room" hyd yn oed os ydi hi'n digwydd bod yn sych ar y pryd. Felly nid ansoddair sy'n ddisgrifiad o'r ystafell ei hun ydi "wet".
 
Mae "ystafell wlyb" yn gwneud y tro yn iawn i fi.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, March 26, 2013 11:23 AM
Subject: Re: wet room

 

 

‘Roeddwn i’n amau mai dyna fyddai’r ateb o ran ffurf anghyffredin OND o ran cyflwr yr ystafell, fel ‘rwy’n ei deall hi, *mae* hi’n ystafell wleb, a fy nghynnig posibl arall fyddai “ystafell ddal dwr”!

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 26 March 2013 11:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: wet room

 

Dwi'n meddwl y byddai ystafell wleb yn gysyniad od iawn - ystafell ydi hi lle mae pethau gwlyb yn digwydd yn hytrach nag ystafell gyffredin sy'n digwydd bod yn wlyb/wleb. Dyna pam na fyddai 'wleb' yn addas yn fy marn i. Heb sôn am y ffaith fod 'wleb' yn ffurf eithaf anghyffredin erbyn hyn beth bynnag.

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, March 26, 2013 10:49 AM

Subject: wet room

 

Dyma fi wedi fy rhoi yn fy lle fel dysgwr a dinosor: dim un enghraifft o “ystafell wleb” ar Google a thros 700 o enghreifftiau o “ystafell wlyb”.  Ai dyna’r drefn?

 

Ann

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5704 - Release Date: 03/25/13

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5704 - Release Date: 03/25/13