Dim ond yn adrodd yn ol: Cefais air a’n
cyfaill o wenynwr o’r diwedd, ond clywais ragor nag oedd arnaf eisiau ei wybod
ar y pryd am effaith oedran a gwres ar fe^l, heb gael fawr o gymorth ynghylch
unrhyw dermau. Wrth feddwl, dau derm posibl arall ar gyfer “runny honey”
fyddai “mel diferol” a “mel llifol”???
Ann
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Ann Corkett
Sent: 15 March 2013 21:10
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: runny/set honey
‘… ““granulation”. Arwydd o burdeb y mel
yw hyn; ni wna pob mel droi felly er ei fod yn bur a glan, ond ni wna ond mel
pur wneud hynny.’ J Evans Jones
Ond gweler GPC am lawer o fathau o fel.
Ann
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Eurwyn Pierce Jones
Sent: 15 March 2013 21:01
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: runny/set honey
Mae tri math o fêl ffres yn cael ei fwyta
yn ein ty ni, sef: caled (weithiau bron yn wyn ei liw, ac
weithiau mor galed â chŵyr), meddal
cyffredin (melyn i llwyd-felyn ei liw, a'i
gyfansoddiad fel triog du meddal) a rhededog (euraid gloyw
ei liw ac yn llifo megis surop). Yn ogystal â'r pedwerydd math hefyd wrth
gwrs, sef yr un a fydd ychydig yn stêl o'i hir gadw, ac a fydd wedi
crystaleiddio i ansawdd megis siwgr (yn enwedig rownd ochr y jar), ond sy'n
lyfli ar dost cyn mynd i'r gwely.
Eurwyn.
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Gareth Jones
Sent: 15 March 2013 18:28
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: runny/set honey
Diolch.
Mensaje enviado desde mi terminal BlackBerry® de Claro
From: newidcymru
<[log in to unmask]>
Sender: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
Date: Fri, 15 Mar
2013 18:25:14 +0000
To: <[log in to unmask]>
ReplyTo: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
Subject: Re:
runny/set honey
Caled a rhedegog dan ni'n ddefnyddio yn y ty yma
Sent from Samsung Mobile
Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
Tybed a oes unrhyw aelod o'r cylch yn gyfarwydd â thermau cadw gwenyn? Ydy mêl
meddal/caled yn gywir? Dwi wedi gweld ambell enghraifft o 'rhedegog' ar-lein.