Dim ond yn adrodd yn ol: Cefais air a’n cyfaill o wenynwr o’r diwedd, ond clywais ragor nag oedd arnaf eisiau ei wybod ar y pryd am effaith oedran a gwres ar fe^l, heb gael fawr o gymorth ynghylch unrhyw dermau. Wrth feddwl, dau derm posibl arall ar gyfer “runny honey” fyddai “mel diferol” a “mel llifol”??? Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 15 March 2013 21:10 To: [log in to unmask] Subject: Re: runny/set honey ‘… ““granulation”. Arwydd o burdeb y mel yw hyn; ni wna pob mel droi felly er ei fod yn bur a glan, ond ni wna ond mel pur wneud hynny.’ J Evans Jones Ond gweler GPC am lawer o fathau o fel. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones Sent: 15 March 2013 21:01 To: [log in to unmask] Subject: Re: runny/set honey Mae tri math o fêl ffres yn cael ei fwyta yn ein ty ni, sef: caled (weithiau bron yn wyn ei liw, ac weithiau mor galed â chŵyr), meddal cyffredin (melyn i llwyd-felyn ei liw, a'i gyfansoddiad fel triog du meddal) a rhededog (euraid gloyw ei liw ac yn llifo megis surop). Yn ogystal â'r pedwerydd math hefyd wrth gwrs, sef yr un a fydd ychydig yn stêl o'i hir gadw, ac a fydd wedi crystaleiddio i ansawdd megis siwgr (yn enwedig rownd ochr y jar), ond sy'n lyfli ar dost cyn mynd i'r gwely. Eurwyn. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones Sent: 15 March 2013 18:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: runny/set honey Diolch. Mensaje enviado desde mi terminal BlackBerry® de Claro _____ From: newidcymru <[log in to unmask]> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Date: Fri, 15 Mar 2013 18:25:14 +0000 To: <[log in to unmask]> ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Subject: Re: runny/set honey Caled a rhedegog dan ni'n ddefnyddio yn y ty yma Sent from Samsung Mobile Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote: Tybed a oes unrhyw aelod o'r cylch yn gyfarwydd â thermau cadw gwenyn? Ydy mêl meddal/caled yn gywir? Dwi wedi gweld ambell enghraifft o 'rhedegog' ar-lein.