"Padell" fydde hi i mi. Dim sôn am y "golchi llestri" - "padell" ar ei ben ei hunan yn ddigon. (Pencader, Llandysul a/neu Cei Newydd) Cofio sôn wrth gydweithwraig yng Nghaernarfon mod i am chwilio am badell amser cinio a hithau'n dweud ei bod hi wedi cael un dda yn Stermat - a chaead arni. "Pam ti'n moyn caead ar badell?" - "Rhag i'r saim sboncio" Hollol conffiwsd!! Siân On 2013 Mawrth 20, at 12:06 PM, David Bullock wrote: > 'y fail lestri' ('mail' yn GPC) oedd yr hen ffurf ym Morgannwg, mae'n debyg. > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen > Sent: 20 Mawrth 2013 11:45 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: washing-up bowl > > Bowlen golchi llestri oedd yn ty ni. > > Ond peidiwch a chymryd fy ngair i am y treiglo, oedden ni ddim yn treiglo fawr ddim byd ;-) > ----- Original Message ----- > From: Melanie Davies > To: [log in to unmask] > Sent: Wednesday, March 20, 2013 11:09 AM > Subject: Re: washing-up bowl > > Na – plastig oedd ein un ni!! > > From: Mary Jones > Sent: Wednesday, March 20, 2013 11:06 AM > To: [log in to unmask] > Subject: Re: washing-up bowl > > Cytuno, Mel, ond bod ‘padell’ wedyn wedi’i gwneud o enamel! Ydy hynny’n wir yng Nghrymych? > Mary > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies > Sent: 20 March 2013 10:59 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: washing-up bowl > > Padell golchi llestri dwi’n ei ddefnyddio (gwreiddiau yng Nghrymych – falle bod hynny’n dweud y cyfan!) > > Melanie > > From: Felicity Roberts [afr] > Sent: Wednesday, March 20, 2013 10:49 AM > To: [log in to unmask] > Subject: Re: washing-up bowl > > A finnau ( /Eifionnydd) , ond rhaid i mi gyfaddef na faswn i ddim yn treiglo, ac yn dweud powlen golchi llestri. > > Felicity > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd > Sent: 20 March 2013 10:46 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: washing-up bowl > > Powlen faswn i'n ddeud (Pen Lly^n). > > Anna > > 2013/3/20 megan tomos <[log in to unmask]> > Powlen a dysgl yn amrywio yn ôl ardal, faswn i'n meddwl. > > From: Rhian Jones <[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > Sent: Wednesday, 20 March 2013, 10:37 > Subject: washing-up bowl > > Bore da > ‘Powlen olchi llestri’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi, ond mae’n swnio’n od iawn i mi. Ydi’r enw’n amrywio o ardal i ardal tybed? ‘Desgil golchi llestri’ ydi hi i mi, ond falle mai fi sy’n anghywir. Oes gan rywun brofiad yn y maes yma tybed??? > Diolch > Rhian > > > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5690 - Release Date: 03/19/13 >