Dw i ddim yn meddwl bod angen treiglo'r
'golchi' chwaith neu mae fel petai'r fowlen (fi hefyd Mary!) olchi yn perthyn
i'r llestri. Os oes gwrthrych ar ôl berfenw fel hyn, dw i'n gweld treiglo'r berfenw'n
rhyfedd.
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar
ran Mary Jones
Anfonwyd/Sent: 20 Mawrth 2013
11:05
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: washing-up bowl
Wedi sylweddoli mai
‘bowlen’ yw’r ffurf gysefin i fi, nid ‘powlen’,
ac yn treiglo, e.e. ‘dwy fowlen’.
Mary
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 March 2013 10:57
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: washing-up bowl
Golchi faswn i'n
ei ddeud hefyd - dwi'n meddwl - trio peidio son amdanyn nhw ryw lawer!
Anna
2013/3/20 Felicity Roberts [afr] <[log in to unmask]>
A finnau ( /Eifionnydd) , ond rhaid i mi gyfaddef na
faswn i ddim yn treiglo, ac yn dweud powlen golchi llestri.
Felicity
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 March 2013 10:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: washing-up bowl
Powlen faswn i'n
ddeud (Pen Lly^n).
Anna
2013/3/20 megan
tomos <[log in to unmask]>
Powlen a dysgl yn
amrywio yn ôl ardal, faswn i'n meddwl.
From:
Rhian Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 20 March 2013,
10:37
Subject: washing-up bowl
Bore da
‘Powlen
olchi llestri’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi, ond mae’n
swnio’n od iawn i mi. Ydi’r enw’n amrywio o ardal i ardal
tybed? ‘Desgil golchi llestri’ ydi hi i mi, ond falle mai fi
sy’n anghywir. Oes gan rywun brofiad yn y maes yma tybed???
Diolch
Rhian