‘Does dim cymaint o broblem o ran “set
honey”; byddai “caled” yn gwneud y tro.
Mae *rhaid*
bod ‘na derm, ac alla i ddim dychmygu’r hen wenwynwyr yn dweud “rhedegog”.
‘Rwyf wedi edrych yn “Rhamant
y Gwenyn” J Evans Jones, ond ni allaf ddod o hyd i gyfeiriad, er, wrth
son am fel sydd, o hir gadw, wedi mynd i edrych yn debyg i siwgr, meddai’r
awdur “Os dymunir ei feddalu, nid rhaid ond ei dwymo …”, ond byddai
hyd yn oed “set honey” yn feddalach na “granular honey”.
O GPC:
mel byw = live honey, liquid honey (tebyg
i “arian byw”, mae’n debyg – Ann)
mel hidl = clarified honey, clear honey
(hefyd mel arian, mel gloyw, mel puredig
Awgryma Bruce, gan fod yr ymadrodd “wylo’n
hidl” ar gael, y byddai “mel hidl” yn iawn ar gyfer “runny
honey”, ond fy nheimlad i yw peidio a defnyddio term sydd eisoes yn
golygu rhywbeth ychydig yn wahanol – ac efallai bydd ei angen arnoch ar
gyfer “clear honey” ymhen ychydig!
Byddai Mel (!!) Williams o Lanuwchllyn yn
debyg o wybod, ond mi wn ei fod ar ei wyliau. Anfonaf e-bost ato, ond wn i ddim
pryd y caf ateb.
Byddai’n dda iawn cael gwybod a
ddefnyddir “mel byw” ddyddiau hyn, gan ei fod yn derm mor dwt. Tybed
a fyddai “me^l byw (rhedegog)” yn iawn?
Ann
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of newidcymru
Sent: 15 March 2013 18:25
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: runny/set honey
Caled a rhedegog dan ni'n ddefnyddio yn y ty yma
Sent from Samsung Mobile
Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
Tybed a oes unrhyw aelod o'r cylch yn gyfarwydd â thermau cadw gwenyn? Ydy mêl
meddal/caled yn gywir? Dwi wedi gweld ambell enghraifft o 'rhedegog' ar-lein.