‘Does dim cymaint o broblem o ran “set honey”; byddai “caled” yn gwneud y tro. Mae *rhaid* bod ‘na derm, ac alla i ddim dychmygu’r hen wenwynwyr yn dweud “rhedegog”. ‘Rwyf wedi edrych yn “Rhamant y Gwenyn” J Evans Jones, ond ni allaf ddod o hyd i gyfeiriad, er, wrth son am fel sydd, o hir gadw, wedi mynd i edrych yn debyg i siwgr, meddai’r awdur “Os dymunir ei feddalu, nid rhaid ond ei dwymo …”, ond byddai hyd yn oed “set honey” yn feddalach na “granular honey”. O GPC: mel byw = live honey, liquid honey (tebyg i “arian byw”, mae’n debyg – Ann) mel hidl = clarified honey, clear honey (hefyd mel arian, mel gloyw, mel puredig Awgryma Bruce, gan fod yr ymadrodd “wylo’n hidl” ar gael, y byddai “mel hidl” yn iawn ar gyfer “runny honey”, ond fy nheimlad i yw peidio a defnyddio term sydd eisoes yn golygu rhywbeth ychydig yn wahanol – ac efallai bydd ei angen arnoch ar gyfer “clear honey” ymhen ychydig! Byddai Mel (!!) Williams o Lanuwchllyn yn debyg o wybod, ond mi wn ei fod ar ei wyliau. Anfonaf e-bost ato, ond wn i ddim pryd y caf ateb. Byddai’n dda iawn cael gwybod a ddefnyddir “mel byw” ddyddiau hyn, gan ei fod yn derm mor dwt. Tybed a fyddai “me^l byw (rhedegog)” yn iawn? Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of newidcymru Sent: 15 March 2013 18:25 To: [log in to unmask] Subject: Re: runny/set honey Caled a rhedegog dan ni'n ddefnyddio yn y ty yma Sent from Samsung Mobile Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote: Tybed a oes unrhyw aelod o'r cylch yn gyfarwydd â thermau cadw gwenyn? Ydy męl meddal/caled yn gywir? Dwi wedi gweld ambell enghraifft o 'rhedegog' ar-lein.