Ond dw i'n meddwl bod
rhaid i'r gair gyfleu'n union beth yw ystyr 'routine'. Dydy 'dawns' ddim - mae'n
rhy gyffredinol. 'Dilyniant' neu 'drefn symudiadau' arbennig sy'n creu'r
'routine' ond nid nhw yw'r 'routine'. Dyna sut dw i'n gweld
hi.
Carolyn
Oddi
wrth/From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 01 Mawrth 2013
11:55
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: routine
(dawns)
Tria wrthsefyll
temtasiwn! Derbyniaf fod angen termau yn yr iaith gwreiddiol ar gyfer criced a
bale a ioga, ond siawns ein bod ni’n medru mynegi ein hunain yn Gymraeg yn achos
dawns. Efallai gall y term a defyddir – dawns, dilyniant, trefn symudiadau
– amrywio yn ol pa mor arbenigol fydd y testun a’r
darllenwyr.
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 March 2013 11:10
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: routine
(dawns)
Dyna un o'r meini
tramgwydd, te, bod routine yn golygu dau os nad tri pheth gwahanol. Ar ol y
drafodaeth ar dermau theatr, dwi'n cael fy nhemtio i awgrymu
rwti^n!!!
Anna
2013/3/1 Eluned Mai <[log in to unmask]>
Dwi'n meddwl bod 'routine'
mewn dawns yn cyfeirio at drefn o symudiadau sydd wedi eu creu ar gyfer dawns
arbennig ac mae trefn i'r symudiadau sy'n llifo o un symudiad i'r llall -
weithiau mae'r symudiadau'n cael eu hailddawnsio a thro arall mae un symudiad yn
datblygu o'r llall. Ddim yn ddigon arbenigwr i egluro yn iawn, ond mae o'n
rhyw fath o 'sequence' dwi'n meddwl.
Eluned
2013/3/1 Dafydd <[log in to unmask]>
On 01/03/2013 10:29, Ann Corkett
wrote:
Mae “darn” yn swnio’n iawn, ond buaswn i’n meddwl y gwnai “dawns” ar ei ben ei hun y tro’n aml. Mae GyrA yn awgrymu “act arferol” ar gyfer “routine”, ond cymeraf y byddai angen dweud rhywbeth fel “un o’u dawnsiau arferol”, gan na fyddai dim ond *un* “ddawns arferol” yn rhaglen y dawnswyr. (a hefyd, mae perygl y byddai’r byd creadigol yn gweld rhywbeth ychydig bach yn ddifriol mewn “arferol”??)
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 28 February 2013 18:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: routine (dawns)
Darn. (Fel darn llefaru/canu).
Sent from my iPhone
On 28 Feb 2013, at 17:34, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:'Dilyniant' efallai, ond ddim yn siwr o hyn.
2013/2/28 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Act di'r gora dwi di'i gael - yn cael ei berfformio mae o ta'n rhan o ymarfer?
Anna
2013/2/28 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Oes yna ddawnswyr yn ein plith? Beth fyddai'r term am routine ym myd dawns?
h.y. "a dance routine"
Beth am gyfuno'r syniadau a dweud 'rhaglen
ddawns'?