Beth am ‘trefniant’? Ydy hyn yn cyfleu’r ystyr o drefn a dilyniant? Dyna beth fyddech chi’n ei wneud gyda chân cerdd dant. Melanie From: Carolyn Sent: Friday, March 01, 2013 11:58 AM To: [log in to unmask] Subject: ATB: routine (dawns) Ond dw i'n meddwl bod rhaid i'r gair gyfleu'n union beth yw ystyr 'routine'. Dydy 'dawns' ddim - mae'n rhy gyffredinol. 'Dilyniant' neu 'drefn symudiadau' arbennig sy'n creu'r 'routine' ond nid nhw yw'r 'routine'. Dyna sut dw i'n gweld hi. Carolyn -------------------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett Anfonwyd/Sent: 01 Mawrth 2013 11:55 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: routine (dawns) Tria wrthsefyll temtasiwn! Derbyniaf fod angen termau yn yr iaith gwreiddiol ar gyfer criced a bale a ioga, ond siawns ein bod ni’n medru mynegi ein hunain yn Gymraeg yn achos dawns. Efallai gall y term a defyddir – dawns, dilyniant, trefn symudiadau – amrywio yn ol pa mor arbenigol fydd y testun a’r darllenwyr. Ann -------------------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 01 March 2013 11:10 To: [log in to unmask] Subject: Re: routine (dawns) Dyna un o'r meini tramgwydd, te, bod routine yn golygu dau os nad tri pheth gwahanol. Ar ol y drafodaeth ar dermau theatr, dwi'n cael fy nhemtio i awgrymu rwti^n!!! Anna 2013/3/1 Eluned Mai <[log in to unmask]> Dwi'n meddwl bod 'routine' mewn dawns yn cyfeirio at drefn o symudiadau sydd wedi eu creu ar gyfer dawns arbennig ac mae trefn i'r symudiadau sy'n llifo o un symudiad i'r llall - weithiau mae'r symudiadau'n cael eu hailddawnsio a thro arall mae un symudiad yn datblygu o'r llall. Ddim yn ddigon arbenigwr i egluro yn iawn, ond mae o'n rhyw fath o 'sequence' dwi'n meddwl. Eluned 2013/3/1 Dafydd <[log in to unmask]> On 01/03/2013 10:29, Ann Corkett wrote: Mae “darn” yn swnio’n iawn, ond buaswn i’n meddwl y gwnai “dawns” ar ei ben ei hun y tro’n aml. Mae GyrA yn awgrymu “act arferol” ar gyfer “routine”, ond cymeraf y byddai angen dweud rhywbeth fel “un o’u dawnsiau arferol”, gan na fyddai dim ond *un* “ddawns arferol” yn rhaglen y dawnswyr. (a hefyd, mae perygl y byddai’r byd creadigol yn gweld rhywbeth ychydig bach yn ddifriol mewn “arferol”??) Ann ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun Sent: 28 February 2013 18:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: routine (dawns) Darn. (Fel darn llefaru/canu). Sent from my iPhone On 28 Feb 2013, at 17:34, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote: 'Dilyniant' efallai, ond ddim yn siwr o hyn. 2013/2/28 anna gruffydd <[log in to unmask]> Act di'r gora dwi di'i gael - yn cael ei berfformio mae o ta'n rhan o ymarfer? Anna 2013/2/28 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Oes yna ddawnswyr yn ein plith? Beth fyddai'r term am routine ym myd dawns? h.y. "a dance routine" Beth am gyfuno'r syniadau a dweud 'rhaglen ddawns'?