Print

Print


On i'n methu dallt be oedd gen ti fanna! Fel arfar gweu fydda i'n ei sgwennu gan mai dyna sut dwi'n ei ddeud o, ond maen nhw run fath hyd y gwela i.

Anna

2013/3/11 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Mae’n ddrwg gen i, “’gweu’ a ‘gwau’” roeddwn i’n trio ei ysgrifennu, ond dywed Bruce (a GPC) nad oes gwahaniaeth beth bynnag, bod y ddau yn medru golygu “knit” neu “weave”.

 

Ddrwg gen i am y mwydro.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 11 March 2013 14:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: mingling

 

 

 

Foneddigesau, onid oes gwahaniaeth rhwng “gweu” a “gweu”? (ynteu a ydw i heb ddarllen pob neges yn iawn?)

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 11 March 2013 10:50
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: mingling

 

Dw i'n licio 'gwau drwy'i gilydd' hefyd.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 11 Mawrth 2013 10:44
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: mingling

 

Ond yn y cyd-destun siawns nad ydi'n amlwg bod nhw'n gwneud rhywbeth ar wahanol i ddim ond gwau? Fel mae'n digwydd yn yr achos yma roedd na eglurhad efo fo hefyd (y sgwrsio a'r rhoi cynnig ar offerynna). Dwi'n dal i'w lecio fo.

Anna

2013/3/11 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Mae 'milling' yn golygu bod torf o bobl yn gwau drwy'i gilydd ond ddim o reidrwydd yn siarad efo'i gilydd.

 

Efo minglo, y siarad ydi'r peth pwysig wrth gwrs.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd

To: [log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Sunday, March 10, 2013 2:31 PM

Subject: mingling

 

Fuon ni'n trafod hwn dro'n ol (yng nghyd-destun aelodau o'r gerddorfa'n minglo efo'r gynulleidfa cyn cyngerdd). Newydd weld ar hap yn GyrA 'gwau drwy'i gilydd' am 'milling'. Oni fasa 'gwau drwy'i gilydd' wedi bod yn iawn ar gyfer mingling? H.y. 'aelodau o'r gerddorfa'n gwau drwy'r gynulleidfa yn rhoi cyfle i godi sgwrs ac i roi cynnig ar eu hofferynnau'? Mae hyny fy nharo i'n well nag unrhyw gynnig arall ddaeth i law - be di'r gwahaniaeth rhwng mingling a milling beth bynnag??

Anna

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5663 - Release Date: 03/10/13