Sori, mae hyn yn ddryslyd dros ben - dwi'n dal i gael y pethau yma dan y pennawd 'mingling', fydd yn faen tramgwydd garw iawn os bydd rhywun yn trio chwilio'r archifau rywbryd. Ai jiscmail sy wedi drysu ta be????

Anna

2013/3/11 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
Tybed ai at y ‘beindar ŷd’ y cyfeirir yma - peiriant yn cael ei dynnu naill ai gan geffylau (gwedd) neu'n ddiweddarach y tu ôl i dractor?  Periant yn torri'r ŷd a'i glymu mewn 'ysgybau' oedd yn cael eu gollwng i lawr ar un ochr benodol i'r peiriant (i'w casglu at ei glydd â llaw-lafur wedyn, i ffurfio 'ystodau' - a fyddai'n gorffen sychu yn yr haul a'r gwynt).  Roedd fersiynau cynharaf o'r peiriant hwn yn gofyn am i'r rheolwr (job eithaf beryglus!) eistedd ar sedd haearn gyntefig yn y cefn, yn gollwng a chodi'r llafn torri'r gwellt yn ôl y gofyn.  Does gen i ddim ateb, mae'n ddrwg geni; ond efallai y gallai fod rywbeth yn debyg i Rhwymwr Ochrog.
 
Ond, ar y llaw arall, os mai 'Side (delivery) Rake' a olygir, yna mae hwnnw'n arf llaw amaethyddol cwbl wahanol; a'r gair ar lafar gwlad am hwnnw yw Ystrodeg neu Cribin Ystodau.
 
Eurwyn.


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd
Sent: 11 March 2013 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: mingling


 

Unrhyw un yn gyfarwydd â hen dermau amaethyddol...?

'side-delivery' (mower for cutting corn)

Y 'side-delivery' sy'n rwystr i mi ar hyn o bryd !

Diolch,
Dafydd