Sori, mae hyn yn ddryslyd dros ben - dwi'n dal i gael y pethau yma dan y pennawd 'mingling', fydd yn faen tramgwydd garw iawn os bydd rhywun yn trio chwilio'r archifau rywbryd. Ai jiscmail sy wedi drysu ta be???? Anna 2013/3/11 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> > ** > Tybed ai at y ‘beindar ŷd’ y cyfeirir yma - peiriant yn cael ei dynnu > naill ai gan geffylau (gwedd) neu'n ddiweddarach y tu ôl i dractor? > Periant yn torri'r ŷd a'i glymu mewn 'ysgybau' oedd yn cael eu gollwng i > lawr ar un ochr benodol i'r peiriant (i'w casglu at ei glydd â llaw-lafur > wedyn, i ffurfio 'ystodau' - a fyddai'n gorffen sychu yn yr haul a'r > gwynt). Roedd fersiynau cynharaf o'r peiriant hwn yn gofyn am i'r rheolwr > (job eithaf beryglus!) eistedd ar sedd haearn gyntefig yn y cefn, yn > gollwng a chodi'r llafn torri'r gwellt yn ôl y gofyn. Does gen i ddim > ateb, mae'n ddrwg geni; ond efallai y gallai fod rywbeth yn debyg i *Rhwymwr > Ochrog*. > > Ond, ar y llaw arall, os mai *'Side (delivery) Rake'* a olygir, yna mae > hwnnw'n arf llaw amaethyddol cwbl wahanol; a'r gair ar lafar gwlad am hwnnw > yw *Ystrodeg* neu *Cribin Ystodau*. > > Eurwyn. > > ------------------------------ > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Dafydd > *Sent:* 11 March 2013 11:47 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ATB: mingling > > > > Unrhyw un yn gyfarwydd â hen dermau amaethyddol...? > > 'side-delivery' (mower for cutting corn) > > Y 'side-delivery' sy'n rwystr i mi ar hyn o bryd ! > > Diolch, > Dafydd >