Anfonodd rhywun o Gymru rywbeth ataf a rhoi 'Yr Eidal' ar waelod y cyfeiriad - ei anfon yn ol fuo ei hanes wrth gwrs - awgrymais wedyn, os oedd 'Italy' yn groes i'r graen, y basa 'Italia' yn weddol debygol o gyrraedd. Pa un sy bwysica? cywirdeb gwleidyddol iaith ynteu bod yn siwr bod y llythyr yn mynd i gyrraedd? O dwn i ddim, dwn i ddim be dwi'n ei feddwl erbyn hyn - ond siawns nad oes gofy bod yn siwr bod ptha'n mynd i gyrraedd???? Anna 2013/3/8 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Ydi, mae'n bwysig. > Dw i ddim yn gwybod i ba raddau y mae postmyn yn dibynnu ar gronfa ddata'r > Post Brenhinol ar gyfer cyfeiriadau Cymraeg - hyd yn oed os yw'r > cyfeiriadau ar arwyddion yn y fan a'r lle. Mae'r cod post yn helpu, siwr o > fod. > > Ond mae gen i ryw gof o 'nhad yn sôn mai chydig o fynedd oedd gan bostmyn > at bobl oedd yn mynnu defnyddio cyfeiriadau Cymraeg slawer dydd - a hynny > ynghanol y Fro Gymraeg. (Gwaeth byth os oeddech chi'n rhoi pen y Cwîn am i > lawr!) Dw i ddim yn gwybod ydi'r sefyllfa'n well erbyn hyn. > > > Hwyl > > Siân > > On 2013 Mawrth 8, at 8:02 PM, anna gruffydd wrote: > > Ond mae hyn codi pwynt pwysig, tydi - fel y deudodd rhywun (sori, sgin i'm > mynadd mynd i chwilio pwy) - os oes gofyn i gwsmer anfon rhywbeth drwy'r > post, y peth pwysig ydi ei fod yn cyrraedd. Mi dreuliais i nosau lawer yn > tynnu arwyddion Saesneg gefn nos amser maith yn ol, ond siawns nad oes > gofyn i ni fod yn siwr bod y cyfeiriada Cymraeg yn mynd i gyrraedd y ty/lle > priodol? > > Anna > > 2013/3/8 Sian Roberts <[log in to unmask]> > >> Ha ha!! >> Tyset ti wedi dweud hynny i ddechrau, byset ti wedi arbed oriau i ni!! >> >> Ond mae'r sillafu'n wahanol ar yr arwydd - sy'n codi pwynt diddorol >> arall!! >> >> Cofion >> >> Siân >> >> >> On 2013 Mawrth 8, at 7:11 PM, Martin Davies wrote: >> >> > Na, nid ffliwc; dw i'n byw o fewn milltir i Glanymor, ac yn gyfarwydd >> a'r man. >> > >> > Sent from my iPad >> > >> > On Mar 8, 2013, at 6:47 PM, Sian Roberts <[log in to unmask]> >> wrote: >> > >> >> Ffliwcen!! >> >> >> >> Da 'di Google Maps - fues i'n cael trafferth ag e ac ro'n i wedi >> anghofio amdano. Rhaid cofio tro nesa! >> >> >> >> Hwyl >> >> >> >> Siân >> >> >> >> >> >> >> >> On 2013 Mawrth 8, at 6:36 PM, Martin Davies wrote: >> >> >> >>> Wel, cynigiais yr ateb hwnnw yn y lle cyntaf! >> >>> >> >>> Sent from my iPad >> >>> >> >>> On Mar 8, 2013, at 12:48 PM, Meinir Thomas < >> [log in to unmask]> wrote: >> >>> >> >>>> Wedi cael hyd i'r ateb ar Google Maps - Cilgant Glan y Môr! :) >> >>>> >> >>>> Meinir >> >>>> >> >> >> > > >