Print

Print


O! Sori! Meddwl mai camdeipio wnest ti - dangos fy anwybodaeth!
Dwylo i fyny pawb arall oedd yn meddwl mai "Byw a Bawd" oedd e i fod!
Dim ond fi?!

Siân


On 2013 Mawrth 6, at 12:11 PM, Neil Shadrach wrote:

Sori - jôc gyfrifiadurol roedd hon i fod - cyfeirio at gyfradd baud ( http://en.wikipedia.org/wiki/Baud )


2013/3/6 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Rwy'n eitha licio cynnig Neil - yn un peth, am ei fod yn Gymreigaidd ond eto'n cyfateb yn agos i'r Saesneg.

Un anfantais bosib yw mai dim ond ar y ffôn rydych yn defnyddio'ch bawd i deipio.

Siân



On 2013 Mawrth 6, at 11:41 AM, Neil Shadrach wrote:

Byw a Baud :-)


2013/3/6 Rhian Huws <[log in to unmask]>

Ewadd, ma na ddigon o ysbrydoliaeth tua’r gogledd ‘na bore ma!

 

Amrywiaeth o fforymau lle mae pobl yn gofyn am gyngor dros y we, dros eu ffonau symudol ac ati sydd dan sylw, felly byddai mwy nag un o’r cynigion yn addas. Penderfynu pa un yw’r broblem rwan!!

 

Diolch bawb am eich cymorth parod.

 

Rhian

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 March 2013 10:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Alive and clicking

 

Felly - negeseuon i gleifion yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol?

 

Gwebodaeth i Gleifion?

 

 

Siân

 

 

On 2013 Mawrth 6, at 10:12 AM, Rhian Huws wrote:



Teitl cyflwyniad mewn cynhadledd ydio ar y gwahanol lwyfannau digidol i ymgysylltu â chleifion.

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 March 2013 09:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Alive and clicking

 

Helo Rhian

 

Ai negeseuon cyffredinol i holl ddilynwyr/ffrindiau Ymddiriedolaeth/Bwrdd  Iechyd neu rywbeth fyddai'r rhain - yn hytrach na negeseuon personol?

 

Siân

 

 

 

On 2013 Mawrth 6, at 7:51 AM, Rhian Huws wrote:




Bore Da Bawb

 

Technoleg Gwybodaeth yw’r cyd-destun – sôn am ymgysylltu â chleifion drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ati.

 

Oes gan unrhyw un ysbrydoliaeth ar fore Mercher tybed?

 

Diolch ymlaen llaw

 

Cofion

 

Rhian