[log in to unmask]" type="cite">Blynyddoedd yn ôl pan oedd y plant yn fach a finnau gyda chasgliad da o lyfrau lluniau iddyn nhw sylwais taw 'bowlen' oedd y ffurf bron bob tro - mewn cyd-destun treiglo neu beidio. Roedd ambell i enghraifft o 'powlen' ond dim un o 'fowlen'. Tybed ydy'r gair yn tueddu gwrthsefyll treiglo? Amser am bleidlais?1. powlen/y bowlen2. bowlen/y fowlen3. bowlen/y bowlen
2013/3/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Bowlen golchi llestri oedd yn ty ni.Ond peidiwch a chymryd fy ngair i am y treiglo, oedden ni ddim yn treiglo fawr ddim byd ;-)----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Melanie DaviesTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Wednesday, March 20, 2013 11:09 AMSubject: Re: washing-up bowl
Na – plastig oedd ein un ni!!From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Mary JonesSent: Wednesday, March 20, 2013 11:06 AMTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Subject: Re: washing-up bowlCytuno, Mel, ond bod ‘padell’ wedyn wedi’i gwneud o enamel! Ydy hynny’n wir yng Nghrymych?
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies
Sent: 20 March 2013 10:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: washing-up bowl
Padell golchi llestri dwi’n ei ddefnyddio (gwreiddiau yng Nghrymych – falle bod hynny’n dweud y cyfan!)
Melanie
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Felicity Roberts [afr]
Sent: Wednesday, March 20, 2013 10:49 AM
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Subject: Re: washing-up bowl
A finnau ( /Eifionnydd) , ond rhaid i mi gyfaddef na faswn i ddim yn treiglo, ac yn dweud powlen golchi llestri.
Felicity
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 March 2013 10:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: washing-up bowl
Powlen faswn i'n ddeud (Pen Lly^n).
Anna2013/3/20 megan tomos <[log in to unmask]>
Powlen a dysgl yn amrywio yn ôl ardal, faswn i'n meddwl.
From: Rhian Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 20 March 2013, 10:37
Subject: washing-up bowl
Bore da
‘Powlen olchi llestri’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi, ond mae’n swnio’n od iawn i mi. Ydi’r enw’n amrywio o ardal i ardal tybed? ‘Desgil golchi llestri’ ydi hi i mi, ond falle mai fi sy’n anghywir. Oes gan rywun brofiad yn y maes yma tybed???
Diolch
Rhian
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2240 / Virus Database: 2641/5690 - Release Date: 03/19/13
-- Eleri Lovgreen ffon symudol - 07900061784