Mae "darn" yn swnio'n iawn, ond buaswn i'n meddwl y gwnai "dawns" ar ei ben ei hun y tro'n aml. Mae GyrA yn awgrymu "act arferol" ar gyfer "routine", ond cymeraf y byddai angen dweud rhywbeth fel "un o'u dawnsiau arferol", gan na fyddai dim ond *un* "ddawns arferol" yn rhaglen y dawnswyr. (a hefyd, mae perygl y byddai'r byd creadigol yn gweld rhywbeth ychydig bach yn ddifriol mewn "arferol"??) Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun Sent: 28 February 2013 18:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: routine (dawns) Darn. (Fel darn llefaru/canu). Sent from my iPhone On 28 Feb 2013, at 17:34, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote: 'Dilyniant' efallai, ond ddim yn siwr o hyn. 2013/2/28 anna gruffydd <[log in to unmask]> Act di'r gora dwi di'i gael - yn cael ei berfformio mae o ta'n rhan o ymarfer? Anna 2013/2/28 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Oes yna ddawnswyr yn ein plith? Beth fyddai'r term am routine ym myd dawns? h.y. "a dance routine"