Diolch am dy gonsyrn ... Mond llun a'r disgrifiad sgen i - ac ie, mae 'na ryw debygrwydd i big yr aderyn erbyn meddwl. Y Gymraeg am yr aderyn ydi 'coegylfinir' neu 'coeg-chwibanogl', ond byddai'n anodd cyfiawnhau chwarae ar y geiriau hynny ac yn sowndio braidd yn chwithig ... Tybed a fyddai jest dweud 'wimbrel' yn iawn? On 13/03/2013 10:20, Sioned Graham-Cameron wrote: > Oes gen ti fwy o ddisgrifiad o'r peth o gwbl, ac eithrio teclyn gwneud rhaffau. Dwi wedi bod yn Gwglo ac yn methu cael hyd i ddim, gyda phob cyfeiriad yn son am y 'deryn neu bethau cyfrifiadurol! > > Oedd o falla yn cael ei alw'n whimbrel oherwydd ei fod yn debyg i big y deryn? > > > Sioned > > > On 13 Mar 2013, at 10:15, Dafydd wrote: > >> Ail alwad y bore am yr enw hwn, sef... >> >> - whimbrel - nid yr aderyn bigfain ond yn hytrach ...'teclyn pren i wneud rhaffau' yng nghyd-destun cefn gwlad. >> >> Diolch eto am bob cymorth, cyd-gyfieithwyryddionynwyr!:-)