Print

Print


Does gen i ddim syniad be ydi 'whimbrel' ond 'pren rhaffau' neu 'pren troi 
rhaffau' ydi enw'r teclyn pren oedd yn cael ei ddefnyddio i droi rhaff 
wellt. Mae na lun ohono fo yn Cydymaith Byd Amaeth hefyd.
Rhian

-----Original Message----- 
From: Sioned Graham-Cameron
Sent: Wednesday, March 13, 2013 10:20 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Whimbrel

Oes gen ti fwy o ddisgrifiad o'r peth o gwbl, ac eithrio teclyn gwneud 
rhaffau. Dwi wedi bod yn Gwglo ac yn methu cael hyd i ddim, gyda phob 
cyfeiriad yn son am y 'deryn neu bethau cyfrifiadurol!

Oedd o falla yn cael ei alw'n whimbrel oherwydd ei fod yn debyg i big y 
deryn?


Sioned


On 13 Mar 2013, at 10:15, Dafydd wrote:

> Ail alwad y bore am yr enw hwn, sef...
>
> - whimbrel - nid yr aderyn bigfain ond yn hytrach ...'teclyn pren i wneud 
> rhaffau' yng nghyd-destun cefn gwlad.
>
> Diolch eto am bob cymorth, cyd-gyfieithwyryddionynwyr!:-)