Ia, dyna faswn i'n feddwl. Mae 'petheuach' yn air bach da; mae'n gallu cynnwys unrhyw beth sydd o gwmpas y lle y gall plentyn ei ddefnyddio i fwydo ei ddychymyg.
Diolch eto Anna!
2013/2/22 anna gruffydd
<[log in to unmask]>
Dyna be dyn nhw te, decini? siwr gin i na rhywbeth felly fasa Nain di'i ddeud. Mae na gynigion eraill yn GyrA o dan odds and ends.Anna
2013/2/22 Eluned Mai
<[log in to unmask]>
Dwi'n hoffi 'mān betheuach'! Os nad oes term sydd eisoes yn bodoli, mi ddefnyddia i hwnna.
Llawer o ddiolch
Eluned
2013/2/22 anna gruffydd
<[log in to unmask]>
Ma^n betheuach/bethau? manion?
Anna
2013/2/22 Eluned Mai
<[log in to unmask]>
Oes unrhyw un wedi dod ar draws term Cymraeg am 'loose parts' - h.y. unrhyw ddefnyddiau y gall plant eu defnyddio wrth chwarae? Gallan nhw fod yn bethau gwneud neu'n bethau naturiol - pob math o bethau fel roedden ni'n eu defnyddio pan oedden ni'n blant.
Gyda llawer o ddiolch
Eluned